Ysgol Gymunedol Gwenlli
Ysgol gynradd gymunedol ddwyieithog yng nghymuned Synod Inn, Ceredigion oedd Ysgol Gymunedol Gwenlli.
Enghraifft o'r canlynol | ysgol gynradd |
---|---|
Rhanbarth | Ceredigion |
Sefydlwyd ysgol yn Synod Inn gyntaf ym 1866, ond mewn hen fwthyn, tebycach i ysgubor, o'r enw Cnwc y Pwrpas y darparwyd yr addysg. Saif hwnnw tua 200 llath o groesffordd Synod Inn tuag at Llanarth.[1][2]
Agorwyd Ysgol Gwenlli ar 20 Ebrill 1877, er nad oedd yr adeilad wedi ei gwblahu. Roedd un ystafell wedi ei chynllunio ar gyfer 70 o blant. Roedd 17 o ddisgyblion ar y gofrestr ac 11 yn bresennol ar y diwrnod cyntaf yng nghofal y prifathro Thomas Cadwalader Evans, ac athrawes gwnio, Miss Mary Evans.[1] Codwyd cloch yn 1902 ac roedd hwn yn dal yno 125 mlynedd yn ddiweddarach. Penderfynnwyd bod angen ystafell ychwanegol a dechreuodd y gwaith arni ym 1903, ond ni gwblhawyd hyd 1911.[2]
Roedd 31 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol yn 2003. Daeth 50% ohonynt o gartrefi lle roedd y Saesneg yn brif iaith, ond roedd 80% ohonynt yn siarad Cymraeg i safon cyfatebol ac iaith gyntaf. Roedd adroddiad Estyn o 1998 yn disgrifio rhai agweddau o'r addysg a ddarparwyd yn anfoddhaol, a doedd dim digon o ddefnydd o'r Gymraeg. Nid oedd yr adeiladau bellach yn addas chwaith, nid oedd neuadd yn yr ysgol o gwbl, na thoiledau yn y brif adeilad.[3]
Caewyd yr ysgol ym mis Ionawr 2010, ynghyd ag Ysgol Gymunedol Llanllwchaearn ac Ysgol Gymunedol y Castell, Caerwedros, gydag ysgol newydd Ysgol Bro Siôn Cwilt yn Synod Inn yn cymryd eu lle.[4][5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Farewell and diolch Ysgol Gwenlli. Cambrian News (17 Medi 2009).
- ↑ 2.0 2.1 Mystery at Ysgol Gwenlli. Cambrian News (9 Mai 2002).
- ↑ Gareth W. Roberts (8 Rhagfyr 2003). Adroddiad Adolygiad Ysgol Gymunedol Gwenlli, 6–8 Hydref 2003. Estyn. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006.
- ↑ Ysgol Gwenlli, Ysgol Llanllwchaearn, Ysgol Gynradd y Castell Caerwedros ac Ysgol Bro Sion Cwilt. Llywodraeth Cynulliad Cymru (20 Ionawr 2009).
- ↑ New school opens in Ceredigion after education shake up. BBC (5 Ionawr 2010).