Ysgol Cyffylliog
Ysgol gynradd ddwyieithog yng Nghyffylliog ger Rhuthun, Sir Ddinbych yw Ysgol Cyffylliog. Mae'n gwasanaethu plant rhwng 3 ac 11 oed. Roedd 29 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol yn 2005 a 21 yn 2012. Yn 2005 daeth tua 25% ohonynt o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn brif iaith,[1] er hynny mae 75% o'r disgyblion yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.[2]
Erbyn Tachwedd 2012 roedd 53% (sef 24) o lefydd gweigion yn yr ysgol a chyhoeddodd Cyngor Sir Ddinbych eu bwriad i aildrefnu addysg yn y cylch.[3]
Mae'r wisg ysgol yn cynnwys crys chwys ysgol, crys-t gwyn/glas, trowsus/sgert/pinaffor du/llwyd/glas tywyll ac esgidiau/trainers tywyll.[4]
Bu'r ysgolhaig Edward Stanton Roberts yn brifathro'r ysgol rhwng 1920 ac 1931.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Adroddiad arolygiad Ysgol Gynradd Cyffylliog, 25–27 Ionawr 2005. Estyn (30 Mawrth 2005).
- ↑ Croeso. Ysgol Cyffyllion.
- ↑ Denbighshire Free Press; cyhoeddwyd 21 Tachwedd 2012
- ↑ Newyddion. Ysgol Cyffyllion (16 Mawrth 2009).
- ↑ Y Bywgraffiadur Ar-lein: ROBERTS, EDWARD STANTON. Llyfrgell Cenedlaethol Cymru. Adalwyd ar 4 Ionawr 2010.