Cyffylliog

pentref yn Sir Ddinbych

Pentref bychan gwledig a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Cyffylliog("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir tua 4 milltir i'r gorllewin o dref Rhuthun ar ffordd wledig sy'n arwain i gyfeiriad Bylchau a Llansannan. Rhed Afon Clywedog trwy'r pentref ar ei ffordd o Fforest Clocaenog i ymuno yn Afon Clwyd, ac mae Afon Corris yn ymuno ag Afon Clywedog yn y pentref.

Cyffylliog
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth495 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd3,160.96 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1°N 3.4°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000149 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ058577 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map

Lleolir Ysgol Cyffylliog yn y pentref gyda tua 18 o blant.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Jones (Ceidwadwr).[1][2]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Cyffylliog (pob oed) (495)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cyffylliog) (255)
  
52.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cyffylliog) (291)
  
58.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Cyffylliog) (55)
  
28.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato