Ysgol Ddawns Anti Karen

Mae Ysgol Ddawns Anti Karen yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ddysgu dawnsio hip hop ac stryd, a hefyd yn rhoi cyfle i blant i wneud ffrindiau newydd. Mae yna dros dri chant o ferched yn dawnsio yn y clwb. Sydd yn mwynhau pob eiliad gyda gwaith caled mae Karen yn ei wneud.

Mae Anti Karen wedi llwyddo i ennill llawer iawn o gystadleuaeth, medalau a tarian. Hefyd mae hi wedi trafeilio i lawer iawn o lefydd gwahanol fel, Blackpool, Paris, Warrington, Liverpool ac yr Eisteddfod yr Urdd a wedi curo sawl gwaith. Hefyd mae rhai o’r genod sydd yn rhan o’r clwb wedi gael y cyfle i fynd i Rwsia i ddawnsio gyda Manw Lili, mi oedd yn rhan o’r “Junior Eurovision”.

Mae ganddi hefyd rhaglen ei hun ar S4C, o’r enw “Ysgol Ddawns Anti Karen” mae yna ddwy gyfres o’r rhaglen. Mae’r rhaglen yn dilyn Karen ar criw i bob math o gystadlaethau gwahanol.

Hanes golygu

Mae Karen yn dod o Gaernarfon yn wreiddiol ac wedi disgyn mewn cariad gyda dawnsio ers mi oedd hi’n ifanc, mae hi’n 52 erbyn hun felly mae hi wedi cael llawer iawn o brofiad yn dawnsio. Penderfynodd i wneud clwb dawnsio, mae ei chlwb wedi mynd ym mlaen ers dros ugain mlynedd. Felly wnaeth hi gwffio i drio cael lle i'r genod ddawnsio. Rŵan mae ganddi le ei hun yn Cibyn ers tua dwy flynedd ac mae hi wrth ei bodd yno!

Mae gan Karen 4 plentyn gyda Dei Pritchard, Sioned,Awen,Ffion a Dylan. Dechreuodd Karen ddysgu pan oedd Ffion yn eu harddegau felly doedd gan Ffion ddim diddordeb yno ond mi wnaeth Awen ddisgyn maen cariad gyda dawnsio ac wedi llwyddo i enill lawer iawn o gystadleuthau yn dawnsio mewn grŵp ac yn unigol. Erbyn hun mae Awen wedi gorffen dawnsio gyda Karen ac wedi mynd yn mlaen I'r brif ysgol i ddysgu fwy am ddawnsio, mi oedd hi’n help mawr i Karen oherwydd y bod hi wedi cymryd blwyddyn allan o’r brifysgol i helpu Karen ar chriw.