Ysgol Dyffryn Ardudwy
Ysgol gynradd yn Nyffryn Ardudwy, Gwynedd, ydy Ysgol Dyffryn Ardudwy. Mae hi'n derbyn plant rhwng 3 ac 11 mlwydd oed.
Math | ysgol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.784516°N 4.094987°W |
Mrs Ann Jones ydy'r brifathrawes bresennol. Yn 2014, 62 o ddisgyblion oedd ar y gofrestr, hefo 18% yn dod o gartrefi lle siaredir Cymraeg[1]. Yn nechrau Hydref 2009, roedd 56 o ddisgyblion ar y gofrestr ac roedd y nifer o blant fydd yn dod i fynu o'r ysgol feithrin wedi disgyn yn sylwedol. Gellir cymharu hyn i gyd hefo 2002, lle roedd 76 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol, a siaradai 16% ohonynt Gymraeg fel iaith gyntaf gartref, a oedd yn ostyngiad sylweddol ar y blynyddoedd cynt, ond dywedir y gall 50% o'r disgyblion siarad Cymraeg ail-iaith i safon iaith gyntaf.[2] Bydd plant o'r ysgol yn symud i Ysgol Ardudwy yn Harlech ym mlwyddyn 7 y system addysgol.
Mae Cromlechi Dyffryn Ardudwy ar dir yr ysgol.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Arolygiad : Medi 2014 ESTYN
- ↑ Arolygiad : 30 Medi – 2 Hydref 2002. ESTYN (4 Rhagfyr 2002).