Dyffryn Ardudwy

pentref a chymuned yn Ardudwy, Gwynedd

Pentref a chymuned yn ne Gwynedd, Cymru, yw Dyffryn Ardudwy[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ar y ffordd A496 rhwng Harlech ac Abermaw yn ardal Ardudwy. Mae pentref Llanbedr ychydig i'r gogledd a Thalybont i'r de.

Dyffryn Ardudwy
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,467 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.7888°N 4.0968°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000062 Edit this on Wikidata
Cod OSSH585235 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Mae twristiaeth yn bwysig i'r pentref bellach, gan ei fod gerllaw traethau Morfa Dyffryn. Ychydig i'r gorllewin o ganol y pentref mae un o orsafoedd trên Rheilffordd Arfordir Cymru.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]

Delwedd lloeren Dyffryn Ardudwy

Hynafiaethau

golygu

Gellir gweld nifer o hynafiaethau o gwmpas y pentref, yn cynnwys tair siambr gladdu: Siambr Gladdu Dyffryn Ardudwy ei hun, Bron y Foel Isaf a Siambr Gladdu Cors Y Gedol, sydd gerllaw hen blasty Cors y Gedol i'r dwyrain o'r pentref. Mae un arall fymryn i'r de ger Tal-y-bont, felly, gellir casglu i'r ardal yma fod yn ardal boblog iawn yn y cyfnod Neolithig. Mae bryngaer Pen y Dinas o Oes yr Haearn hefyd gerllaw.

Pobl o Ddyffryn Ardudwy

golygu

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Dyffryn Ardudwy (pob oed) (1,540)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Dyffryn Ardudwy) (704)
  
47.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Dyffryn Ardudwy) (726)
  
47.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Dyffryn Ardudwy) (367)
  
48.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 11 Chwefror 2023
  2. British Place Names; adalwyd 11 Chwefror 2023
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.