Ysgol Glan Morfa (Caerdydd)

Gweler hefyd: Ysgol Glan Morfa (Conwy).


Ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Cymraeg yn ardal y Sblot, Caerdydd ydy Ysgol Glan Morfa. Y prifathro presennol yw Mrs S Wyn Thomas.[1]

Ysgol Glan Morfa
Sefydlwyd 2005
Math Cynradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Mr Meilir Tomos
Lleoliad Stryd Hinton, Y Sblot, Caerdydd, Cymru, CF24 2EU
AALl Cyngor Caerdydd
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 4–11
Gwefan http://www.ysgolglanmorfa.cardiff.sch.uk

Agorodd yr ysgol ym mis Medi 2005, gyda un dosbarth ar safle Ysgol Gynradd Moorland. Erbyn 2007, roedd 29 o ddisgyblion yn yr ysgol, wedi eu rhannu rhwng dau ddosbarth.[2] Ym mis Medi 2007, caewyd uned feithrin Ysgol Gynradd Moorland er mwyn rhoi mwy o le i'r ysgol Gymraeg aros ar y safle yn barhaol.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1.  School Details: Ysgol Glan Morfa. Cyngor Caerdydd. Adalwyd ar 3 Chwefror 2010.
  2.  Datganiad i'r wasg: Diwrnod Agored yn Ysgol Glan Morfa. Cyngor Caerdydd (23 Ebrill 2007).
  3.  Meithrinfa Moorland, Ysgol Gynradd Moorland ac Ysgol Glan Morfa. Llywodraeth Cynulliad Cymru (30 Ebrill 2007).

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.