Ysgol Gyfun Emlyn
Ysgol uwchradd yng Nghastellnewydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin yw Ysgol Gyfun Emlyn.[1] Sefydlwyd yr ysgol ym 1984, wedi ad-drefniad addysg uwchradd yn yr ardal. Mae'n gwasanaethu talgylch sy'n cynnwys dwy ochr Dyffryn Teifi, gan groesi'r ffin rhwng Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, mae'n gynnwys ardaloedd Pencader, Capel Iwan a Chenarth.[2]
Enghraifft o: | ysgol ddwyieithog ![]() |
---|---|
Lleoliad | Castellnewydd Emlyn ![]() |
![]() | |
Rhanbarth | Sir Gaerfyrddin ![]() |
Ian A McCloy yw prifathro presennol yr ysgol. Roedd 752 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2006, i gymharu â 650 ym 1999.[1] Siaradai tua 12% o'r disgyblion y Gymraeg i safon iaith gyntaf.[1]
Arwyddair yr ysgol yw Gorau oll y gorau ellir.[3]
Ffynonellau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Arolygiad: 2 Mai 2006. ESTYN (5 Gorffennaf 2006).
- ↑ School background. Ysgol Gyfun Emlyn.
- ↑ Croeso i Ysgol Gyfun Emlyn - Welcome to Ysgol Gyfun Emlyn. Ysgol Gyfun Emlyn.