Ysgol Gymraeg Cwm Derwen

Ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ym mhentref Oakdale, Cyngor Bwrdeisdref Sirol Caerffili, yr hen sir Gwent

Mae Ysgol Gymraeg Cwm Derwen yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Oakdale, ger Coed-duon yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae ganddi oddeutu 200 o ddisgyblion gyda phob un ohonynt yn 2023 yn dod o gartrefi lle nad oedd Cymraeg yn iaith yr aelwyd.[1] Cyfeiriad yr ysgol yw Beech Grove, Oakdale, Y Coed Duon, NP12 0JL.

Ysgol Gymraeg Cwm Derwen
Enghraifft o'r canlynolysgol gynradd, ysgol Gymraeg Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
RhanbarthCyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://ysgolgymraegcwmderwen.co.uk/ Edit this on Wikidata

Yn dilyn arolygiad a gynhaliwyd yn Nhachwedd 2023, canfu tîm o arolygwyr Estyn fod Ysgol Gymraeg Cwm Derwen yn ysgol “hollol gynhwysol” sy’n hyrwyddo positifrwydd o fewn eu hethos a’u hamgylchedd. Prifathrawes yr ysgol yn 2024 oedd Mrs Matthews.[2]

Ysgol Gymraeg Cwm Derwen oedd degfed ysgol Gymraeg Cyngor Caerffili. Rhoddwyd cynlluniau i'w hagor er mwyn cynyddu'r galw am addysg Gymraeg yn 2007.[3]

Penderfynwyd agor yr ysgol newydd i 250 o ddisgyblion ar hen safle ysgol iau Rhiw Syr Dafydd. Cymeradwyodd cabinet y cyngor wariant o £200,000 ar addasu'r adeilad gwag. Mae dalgylch yr ysgol yn cynnwys Coed-duon, Oakdale, Rhiw Syr Dafydd, Pontllanfraith, Ynys-ddu a Chwmfelinfach, oedd yn arfer dod o fewn ardal deitho Ysgol Gymraeg Trelyn.[4]

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Adroddiad Estyn, Estyn, 2024, https://www.estyn.llyw.cymru/system/files/2024-01/Rhieni%20a%20gofalwyr%20-%20Adroddiad%20arolygiad%20-%20Ysgol%20Gymraeg%20Cwm%20Derwen%202024.pdf, adalwyd 30 Hydref 2024
  2. "Caerphilly primary school commended for inclusivity". South Wales Argus. 5 Chwefror 2024.
  3. "New Welsh medium school being planned". Wales Online. 7 Chwefror 2007.
  4. "Welsh school set for green light". South Wales Argus. 4 Medi 2007.