Cwmfelinfach

pentref ym Mwrdeistref Sirol Caerffili

Mae Cwmfelinfach yn bentref bach wedi'i leoli yn Nyffryn Sirhywi yn yr hen Sir Faesyfed ond mae bellach yn ran o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae Wedi'i leoli i'r gogledd o Wattsville a thua 5 milltir i'r gogledd o'r dref agosaf Rhisga ac i'r de o'r Coed Duon.

Cwmfelinfach
Math pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Caerffili Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.6173°N 3.1785°W Edit this on Wikidata
Cod OS ST185916 Edit this on Wikidata

I'r dwyrain, mae bryniau Pen-y-Trwyn yn ffinio â'r dyffryn (1,028 troedfedd/313m). I'r gorllewin mae Mynydd y Grug (1,132 tr/345m).

HanesGolygu

Roedd Cwmfelinfach yn gartref i gymuned glo yn ystod y cyfnod cynnar i ganol yr 20g. Agorodd y pwll glo y Nine Mile Point, tua 1905 a daeth i ben yn 1964. Glofa'r Nine Mile Point oedd safle'r "eistedd fewn" (Sir in') glowyr cyntaf erioed. Yn ystod 1935 bu i'r "streic aros i lawr" yn cynnwys 164 o lowyr. Roeddent yn protestio yn erbyn defnyddio glowyr "sgab"(dynion nad oeddent yn aelodau o'r Ffederasiwn yn wahanol i weddill y gweithlu y pwll). Dim ond wedi i'r cwmni addo na fyddai unrhyw ddynion nad oeddent yn ffedereiddio yn cael eu cyflogi yn y pwll glo. Yn ei gyfanrwydd, parhaodd streic am 177 awr. Roedd glowyr o byllau glo eraill yn yr ardal, rhai yn cymryd camau tebyg, yn cefnogi eu gweithredu.

Cyn y GloGolygu

Pentrefan bychan oedd Cwmfelinfach tan ddiwedd y 19g - felly mae'r rhan fwyaf o dai yn dai teras traddodiadol o'r 20g. Mae map o 1885 yn dangos Melin (capel) y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghapel Babell.[1]

Ceir bedd y bardd Islwyn (1832-1878) ar gael yma.[2][3]

HeddiwGolygu

Ceir ysgol gynradd yn y pentref, Ysgol Gynradd Cwmfelinfach.[4]

DolenniGolygu

Cyfesurynnau: 51°37′02″N 3°10′43″W / 51.61730°N 3.17854°W / 51.61730; -3.17854

CyfeiriadauGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Caerffili. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato