Ysgol Gynradd Cwmpadarn
Ysgol gynradd gymunedol a leolir yn Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion yw Ysgol Gynradd Cwmpadarn. Saesneg yw prif iaith yr ysgol, ond gwneir defnydd sylweddol o'r Gymraeg. Daw 95% o'r disgyblion o gartrefi lle mae'r Saesneg yn brif iaith.[2]
Ysgol Gynradd Cwmpadarn | |
---|---|
Sefydlwyd | 1873 |
Math | Cynradd, y wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Saesneg, â defnydd sylweddol o'r Gymraeg |
Pennaeth | Mr H. Raw-Rees |
Lleoliad | Pen-y-graig, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru, SY23 3SG |
AALl | Cyngor Sir Ceredigion |
Disgyblion | 79 (2010)[1] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 4–11 |
Lliwiau | Coch tywyll |
Wedi cyrraedd blwyddyn 7 yn y system addysgol, bydd disgyblion fel rheol yn mynd ymlaen i Ysgol Gyfun Penglais.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Ysgol Gynradd Cwmpadarn. Cyngor Sir Ceredigion. Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2011.
- ↑ David Martin Cray (5 Mai 2006). Adroddiad Arolygiad Ysgol Gynradd Gatholig Padarn Sant, 4 Ebrill 2006. Estyn.
Dolenni allanol golygu
- Gwefan yr ysgol Archifwyd 2010-05-19 yn y Peiriant Wayback.