Ysgol Gynradd Llwyn yr Eos

ysgol yng Ngheredigion, DU

mynedfa Ysgol Llwyn-yr-Eos, Penparcau, Aberystwyth Ysgol gynradd Saesneg yn ardal Penparcau, Aberystwyth, Ceredigion, yw Ysgol Gynradd Llwyn yr Eos (neu Ysgol Gynradd Llwyn-yr-Eos). Mae'n darparu addysg ar gyfer plant rhwng 3 ac 11 oed, mae dosbarth meithrin rhan-amser ar gyfer y plant ifengaf.[1] Roedd 288 o blant yn yr ysgol yn 2001, ond roedd hyn wedi disgyn i 193 erbyn 2007.Saesneg oedd unig iaith cartref 97% o'r disgyblion yn 2007.[2]

Yr Ysgol golygu

 
arwyddbost Ysgol Llwyn-yr-Eos, Penparcau, Aberystwyth
 
Ysgol Llwyn-yr-Eos, Penparcau, Aberystwyth

Agoriad golygu

Agorwyd yr adeilad cyfredol yn 1952.[3] gan y cyghorydd M.Ll.G. Williams, Cadeirydd Pwyllgor Addysg Cyngor Sir Ceredigion. Agorwyd y seremoni wrth ganu Hen Wlad fy Nhadau a gorffen gyda God Save the Queen. Cafwyd perfformiadau cerddorol gan ddisgyblion hefyd.[4]

Adroddiad 2013 golygu

Yn ôl Adroddiad yn 2013 gan Estyn (Arholygaeth ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru) roedd gan yr ysgol 211 o ddisgyblion; 38% yn derbyn cinio ysgol am ddim (21% oedd y canran ar draws Cymru) gydag 85% o gartrefi lle mae Saesneg yw iaith yr aelwyd. Nodwyd bod 63% o'r disgyblion ar gofrestr anghenion dysgu ychwanegol. Nodwyd bod "Perfformiad Presenol yr Ysgol" yn "Dda".[5]

Rhai ffotos Archif oddi ar wefan Casgliad y Werin golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.