Ysgol Gynradd Rhydypennau
Ysgol gynradd Gymraeg yn Rhydypennau, Bow Street, Ceredigion ydy Ysgol Gynradd Rhydypennau.
Enghraifft o: | ysgol gynradd, ysgol Gymraeg ![]() |
---|---|
Lleoliad | Bow Street ![]() |
![]() | |
Rhanbarth | Ceredigion ![]() |
- Gweler hefyd: Ysgol Gynradd Rhydypenau
Sefydlwyd yr ysgol ym 1876, mae'r adeilad gwreiddiol yn sefyll ar lôn fach rhwng yr A487 a'r B4353 i Landre. Ym 1966 roed 50 o ddisgyblion a 2 athro yn yr ysgol.[1] Yn 1967 agorwyd Ysgol Feithrin wirfoddol yn y pentre i blant rhwng 3 a 4 oed. Wrth i niferoedd y plant cynradd gynyddu’n gyflym symudodd yr Ysgol Feithrin symud i Neuadd Rhydypennau, ac yn ddiweddarach i Ysgoldy’r Eglwys yn Llandre.[1] Agorwyd adeilad newydd ar briffordd yr A487 ym 1973 wedi i'r nifer o ddisgyblion godi dros 200.[2] Symuddod y plant meithrin a'r dosbarth derbyn i'r hen adeilad, ac yno buont hyd mis Hydref 2007. Agorwyd estyniad newydd ar gyfer y plant rhain yn swyddogol ar 10 Tachwedd 2009.[3]
Roedd 192 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol erbyn 2005. Daeth 18% o'r disgyblion o gartrefi lle siaredir y Gymraeg.[4] Mae yna nawr dros 200 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol, ac yn parhau i addysg uwch yn ysgolion uchaf fel Ysgol Penglais neu Ysgol Penweddig, Mae'r ysgol yma yn cael ei considro'n well na'r Ysgol Cymraeg yn Aberystwyth.
Arwyddair yr ysgol yw Tyfu a Dysgu Gyda'n Gilydd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Newyddion 2007–2008. Ysgol Gynradd Rhydypennau (2007). Adalwyd ar 4 Ionawr 2010.
- ↑ Croeso. Ysgol Gynradd Rhydypennau. Adalwyd ar 4 Ionawr 2010.
- ↑ Newyddion 2009–2010. Ysgol Gynradd Rhydypennau (2009). Adalwyd ar 4 Ionawr 2010.
- ↑ Adroddiad Ysgol Gynradd Rhydypennau, 3–5 Mai 2005. Estyn (8 Gorffennaf 2005).
Dolenni allanol
golygu- Gwefan yr ysgol Archifwyd 2010-10-29 yn y Peiriant Wayback