Ysgol Gynradd Rhydypenau
- Gweler hefyd: Ysgol Gynradd Rhydypennau
Ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg yn ardal Cyncoed, Caerdydd ydy Ysgol Gynradd Rhydypenau (Saesneg: Rhydypenau Primary School). Mae'n gwasanaethu plant 3–11 oed yn ardal Cyncoed.[2] Addysgir y plant meithrin a'r dosbarth derbyn yn yr adeilad gwreiddiol parhaol a adeiladwyd yn 1936 ar gyfer tua 160 o ddisgyblion. Mae gweddill y disgyblion yn cael eu addysgu mewn adeiladau dros-dro a adeiladwyd yn ystod yr 1940au a'r 1960au.[1]
Ysgol Gynradd Rhydypenau | |
---|---|
Rhydypenau Primary School | |
Sefydlwyd | 1936 |
Math | Cynradd, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Saesneg |
Pennaeth | Carolyn A Evans |
Lleoliad | Fidlas Avenue, Cyncoed, Caerdydd, Cymru, CF14 0NX |
AALl | Cyngor Caerdydd |
Disgyblion | 441 (2005)[1] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 3–11 |
Gwefan | http://www.rhydypenauprm.cardiff.sch.uk |
Roedd 441 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol erbyn Tachwedd 2005, ac yn ychwanegol, 78 o blant meithrin yn mynychu yn rhan amser. Daeth 10% o'r disgyblion o gartrefi lle siaradwyd y Saesneg fel ail-iaith. Cafodd yr ysgol ei feirniadu'n hallt yn adroddiad Estyn a gyhoeddwyd yn 2006, am ddiffyg eu defnydd a dysgu o'r Gymraeg fel ail-iaith, ac am beidio creu digon o ymwybyddiaeth am Gymru a'i diwylliant.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Rhydypenau Primary School report, 7–10 November 2005. Estyn (9 Ionawr 2006).
- ↑ (Saesneg) Rhydypenau Primary School. Cyngor Caerdydd. Adalwyd ar 4 Ionawr 2010.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Ysgol Gynradd Rhydypenau Archifwyd 2009-10-05 yn y Peiriant Wayback