Ysgol Gynradd Ysbyty Ystwyth
Ysgol gynradd gymunedol yn Ysbyty Ystwyth, Ceredigion oedd Ysgol Gynradd Ysbyty Ystwyth. Mae'n gwasanaethu cymunedau gwledig Ysbyty Ystwyth, Pontrhydygroes a'r cyffiniau. Disgynodd y nifer o ddisgyblion yn yr ysgol o 49 i 22 rhwng 1997 a 2002. Daeth 30% o'r disgyblion o gartrefi lle siaradwyd y Gymraeg yn 2002.[1]
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | ysgol gynradd, ysgol ![]() |
Rhanbarth | Ceredigion, Cymru ![]() |
Aith disgyblion yr ysgol ymlaen i Ysgol Uwchradd Tregaron ar ôl cwblhau blwyddyn 6 yn y system addysgol.
Agorwyd yr Ysgol ym 1878, roedd llun o ddisgyblion yr ysgol ym mhapur bro Y Barcud yn 1925 ac 1945. Caewyd Ysgol Gynradd Ysbyty Ystwyth yn 2008, gyda ond 11 o ddisgyblion yn weddill yn yr ysgol.[2]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Adroddiad Estyn 2002
- ↑ School shuts after numbers fall. BBC (4 Medi 2008).