Papur Bro

papur newydd cymunedol Cymraeg

Papurau cymunedol Cymraeg a gyhoeddir fel arfer yn fisol ac a gynhyrchir gan wirfoddolwyr yw Papurau Bro. Y cyntaf i'w sefydlu oedd Y Dinesydd yn 1973 yng Nghaerdydd. O fewn blwyddyn sefydlwyd pedwar arall: Papur Pawb yn Nhal-y-bont, Llais Ogwan ym Methesda, Clebran yn ardal y Preseli a Pethe Penllyn yn ardal Llanuwchllyn. Erbyn heddiw mae dros hanner cant o bapurau bro ar gael.

Papur Bro
Mathcommunity newspaper Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru

Mae gan yr holl bapurau bro gylchrediad o oddeutu 35,950 o gopïau'r mis.[1]

Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 2012 galwodd Leighton Andrews, y Gweinidog oedd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg a chyfryngau digidol am ragor o gefnogaeth i bapurau bro:

"Mae'r Papurau Bro yn draddodiad pwysig yng Nghymru, ond wrth i fwy o bobl droi at y dechnoleg newydd am eu newyddion, mae'n hanfodol eu bod yn defnyddio'r dulliau newydd hyn o gyfathrebu. Mae nifer o gyfleoedd ar gael i helpu'r broses o gyhoeddi'r Papurau Bro i symud â'r oes, o'r dylunio a'r cysodi i ddefnyddio Hyperlocal i'w hyrwyddo. Mae llawer iawn o dechnoleg ar gael i'w gwneud yn hygyrch i gynulleidfa ehangach a rhoi lle i leisiau newydd." [2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-12-07. Cyrchwyd 2016-07-01.
  2. Galw am ehangu apêl papurau bro Gwefan y BBC adalwyd 29 Medi 2012.

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am bapur newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.