Y Barcud
papur bro ardal Tregaron, Ceredigion
- Mae'r erthygl hon yn trafod y papur bro. Am yr aderyn, gweler Barcud Coch.
Y Barcud yw papur bro ardal Tregaron, Ceredigion, sy'n cynnwys nifer o bentrefi yn yr ardal: Llangeitho, Blaenpennal, Llanddewi Brefi, Pontrhydygroes a Bronant. Mae'n cymryd ei enw oddi wrth y Barcud Coch, aderyn sy'n nodweddiadol o'r ardaloedd hyn. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf yn Ebrill, 1976.