Ysgol Llandwrog
Ysgol gynradd dwyieithog Cymraeg a Saesneg ydy Ysgol Llandwrog. Lleolir ym mhentref Llandwrog tua dwy ffilltir i'r de-orllewin o Gaernarfon yng Ngwynedd. Mae'r ysgol dan reolaeth wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru. Mae'r ysgol yn nhalgylch Ysgol Syr Hugh Owen. Roedd 46 o ddisgyblion rhwng oedran 3-11 yn 2019. Daw 90% o’r disgyblion o gartrefi ble siaredir Cymraeg, a siaradai bron pob un o'r plant Gymraeg i safon iaith gyntaf.[1] Y prif athrawes ydi Carys Thomas.
Math | ysgol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd, Cymru |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.07°N 4.32°W |
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- Gwefan yr ysgol Archifwyd 2008-01-20 yn y Peiriant Wayback