Ysgol O. M. Edwards

(Ailgyfeiriad o Ysgol O M Edwards)

Ysgol gynradd Gymraeg yn Llanuwchllyn ger Y Bala ydy Ysgol O. M. Edwards. Sefydlwyd yr ysgol bresennol yn 1954, ac roedd 42 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2006.[1] Fe aiff disgyblion yr ysgol ymlaen i Ysgol y Berwyn pan yn 11 oed. Daw 80% o'r disgyblion o gartefi lle mae'r Cymraeg yn brif iaith.[2]

Ysgol O.M. Edwards
Mathysgol Gymraeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Lleoliady Bala Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.859754°N 3.674783°W Edit this on Wikidata
Cod postLL23 7UB Edit this on Wikidata
Map

Enwyd yr ysgol ar ôl Owen Morgan Edwards, dyn a anwyd yn Llanuwchlyn ac a aeth ymlaen i fod yn Aelod Seneddol ac yn Arolygwr Ysgolion cyntaf Cymru. Ei fab ef a sefydlodd Urdd Gobaith Cymru.

Prifathro cyntaf yr ysgol oedd Ifor Owen, a oedd hefyd yn sylfaenydd ac yn arlunydd y comic Cymraeg cyntaf, sef Hwyl!.[3]

Ffynonellau golygu

  1. "Cyngor Gwynedd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-07-08. Cyrchwyd 2004-07-08.
  2. "Adroddiad Estyn 2002" (PDF). Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 2003-08-24. Cyrchwyd 2003-08-24.
  3. Sylfaenydd comic cynta'n marw BBC 22 Mai 2007

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.