Ifor Owen
Awdur ac arlunydd o Gymru oedd Ifor Owen (3 Gorffennaf 1915 – 22 Mai 2007).
Ifor Owen | |
---|---|
Ganwyd | 3 Gorffennaf 1915 Cefnddwysarn |
Bu farw | 22 Mai 2007 Dolgellau |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pennaeth, darlunydd, llenor |
Fe'i ganwyd ym mhentref Cefnddwysarn, Meirionnydd, a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Bala a Choleg y Normal, Bangor.[1]
Roedd yn aelod cynnar Urdd Gobaith Cymru ym 1922 a chwaraeodd rhan bwysig yn ei gweithgareddau am gyfnod hir.
Yn 21 oed fe'i penodwyd yn brifathro ysgol gynradd Croesor, lle arhosodd hyd at 1948. Roedd yn bennaeth ysgol bentref Gwyddelwern o 1948 i 1954 ac yn brifathro cyntaf Ysgol O. M. Edwards yn Llanuwchllyn, o 1954 i 1976.
Roedd galw mawr amdano fel darlunydd bob amser. Y llyfr cyntaf a ddarluniodd oedd Yr Hen Wraig Bach a'i Mochyn (1946). Wedyn cafodd lawer o gomisiynau gan gyhoeddwyr Cymru, yn eu plith Yr Hogyn Pren gan E. T. Griffiths (addasiad Cymraeg o stori Pinocio gan Carlo Collodi) a Hunangofiant Tomi gan Edward Tegla Davies.
Ysgrifennodd, arlunodd a chyhoeddodd Hwyl, y llyfr comic Cymraeg cyntaf i blant, a gyhoeddwyd gyntaf ym 1949 a pharhaodd hyd at 1989.
Fe'i dyfarnwyd Gwobr Mary Vaughan Jones am llenyddiaeth plant ym 1985 a Medal Syr T.H. Parry-Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r cylch 1977.
Llyfryddiaeth
golygu- Ifor Owen Mewn Meysydd Eraill, gol. Beryl H. Griffiths (Gwasg Carreg Gwalch, 2009)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Meic Stephens, "Ifor Owen: Teacher and Illustrator", The Independent, 31 Mai 2007