Ysgol Rhyd y Llan

Ysgol gynradd yn Llanfaethlu

Ysgol gynradd yn Llanfaethlu, Ynys Môn, yw Ysgol Rhyd y Llan yn nhalgylch ysgol Uwchradd Bodedern.

Ysgol Rhyd y Llan
Mathysgol gynradd Edit this on Wikidata
LL-Q9309 (cym)-Calab22-Ysgol Rhyd y Llan (Q63099483).wav Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.353604°N 4.534134°W Edit this on Wikidata
Cod postLL65 4PH Edit this on Wikidata
Map

Pennaeth yr ysgol yw Nia Lloyd Thomas. Mae hi'n ysgol cyfrwng Cymraeg ac mae tua 150 o blant ar y gofrestr.

Cychwynwyd yr ysgol yn 2017 drwy gau a chyfuno ysgolion Ysgol Ffrwd Win, Ysgol Llanfachraeth ac Ysgol Cylch y Garn.[1] Gwnaed nifer fawr o ddarganfyddiadau archeoloegol wrth i'r ysgol cael ei hadeiladu, gyda tai Neolithig yn dyddio nôl dro 6,000 o flynyddoedd.[2]

Mae 7 dosbarth lliw gwahanol yn yr ysgol gan cynnwys Coch, Gwyrdd, Glas, Piws, Leim, Melyn, a Glas Golau. Mae'r feithrinfa wedi symud o'r ty coffi ym mhentref Llanfaethlu i'r ysgol. Y cwmni yno yw Mudiad Meithrin. Mae yna glwb pêl-droed pob nos Fawrth a chlwb ymarfer corff hefo'r urdd bob nos Iau.

Llwyddodd yr ysgol i ennill y gwpan Mrs Woolie yn Eisteddfod yr Urdd. Grwp o 6 o blant yn blwyddyn 4 cafodd y gwpan am y darn o gelf gorau yn Eisteddfod yr Urdd.

Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Adroddiadau Estyn". Estyn. 27 Awst 2019. Cyrchwyd 2024-04-25.
  2. "Ysgol Rhyd y Llan - Constructing Excellence". constructingexcellence.org.uk (yn Saesneg). 2018-08-08. Cyrchwyd 2024-04-25.