Llanfaethlu

gymuned yn y sir Gymreig Môn, yng Nghymru, a leolir ar arfordir gogledd orllewin y sir

Pentref a chymuned yng ngogledd-orllewin Ynys Môn yw Llanfaethlu. Saif ar y briffordd A5025 rhwng Y Fali a Chemaes. Daw enw'r pentref o enw sant Maethlu, a elwir hefyd yn "Maethlu Gyffeswr".

Llanfaethlu
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaTref Alaw Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.341974°N 4.546167°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000019 Edit this on Wikidata
Cod OSSH3058785808 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au
AS/au
Map

Nid yw'r pentref ei hun ar lan y môr, ond mae traeth Porth Swtan gerllaw, tua milltir a hanner i'r gogledd-orllewin. Mae bwthyn yma o'r enw Swtan sy'n awr yn amgueddfa werin; dywedir mai hwn yw'r bwthyn to gwellt olaf ar yr ynys. Mae plasty Garreglwyd gerllaw yn dyddio o'r 17g.

Roedd yno ysgol gynradd bach yno o flaen or enw Ysgol Ffrwd Win ond yn anffodus wnaeth o cau I lawr yn 2017 ond wnaeth ysgol fwy agor yn Llanfaethlu or enw Ysgol Rhyd Y Llan sy'n cynnwys ysgol cylch y garn a ysgol gynradd Llanfachraeth ! Wnaeth y 3 ysgol yna cau I lawr a chreu ysgol fwy sydd yn llawer fwy .

Mae yna wyl bob blwyddyn yn llanfaethlu, sef gotwood, yn 2019 doth 10,000 i bobol ir wyl!!

Mae Llanfaethlu yn gartref i Condessa.[angen ffynhonnell]

Pobl o Lanfaethlu golygu

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfaethlu (pob oed) (553)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfaethlu) (347)
  
66%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfaethlu) (372)
  
67.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanfaethlu) (82)
  
35.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.