Thomas Charles
Clerigwr Methodistaidd enwog, addysgwr a diwinydd oedd Thomas Charles o'r Bala (14 Hydref 1755 – 5 Hydref 1814), a aned yn Llanfihangel Abercywyn, Sir Gaerfyrddin.
Thomas Charles | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
14 Hydref 1755 ![]() Sir Gaerfyrddin ![]() |
Bu farw |
5 Hydref 1814 ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
clerig ![]() |
Roedd Thomas Charles o'r Bala yn frawd i David Charles, yr emynydd. Fe'i haddysgwyd yn Llanddowror, Sir Gaerfyrddin, Caerfyrddin, a Rhydychen. Ar ôl cyfnod yn offeiriad Anglicanaidd yng Ngwlad yr Haf priododd Sally Jones o'r Bala a symudodd i fyw yn y dref honno yn 1783. Yn 1784 ymunodd â'r Methodistiaid Calfinaidd a threuliodd weddill ei oes yn gweinidogaethu yn eu plith.
Gwaith llenyddolGolygu
Ysgrifennai Thomas Charles yn y Gymraeg a'r Saesneg. Llyfrau hyfforddiadol i blant oedd ei waith cyntaf yn y Gymraeg. Yn Saesneg y cyhoeddodd ei lyfr Welsh Methodists Vindicated, sy'n amddiffyn y Methodistiaid rhag ymosodiadau gan elfennau ceidwadol yn Eglwys Loegr.
Ei waith llenyddol pwysicaf oedd ei eiriadur ysgrythurol a gyhoeddwyd mewn pedair cyfrol (1805, 1808, 1810, 1811) yn wreiddiol ac a adargraffwyd sawl gwaith yn ystod y 19g. Yn ogystal â chyfleu llawer o wybodaeth newydd am cefndir hanesyddol yr Ysgrythurau, mae Charles yn trafod cysyniadau diwinyddol hen a newydd mewn arddull goeth, gaboledig.
Yn ogystal gweithiodd am flynyddoedd ar y gwaith o baratoi Beibl Cymraeg newydd, ar ran Y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol. Cafodd gymorth sylweddol gan Thomas Jones, Dinbych a Robert Jones, Rhos-lan.
Cerflun; ffotograff o'r 1870au
LlyfryddiaethGolygu
Llyfrau Thomas CharlesGolygu
- Catecism Byr (1789/1799)
- Hyfforddwr yn Egwyddorion y Grefydd Gristnogol (1807)
- Welsh Methodists Vindicated (1802)
- Y Geiriadur Ysgrythurawl, 4 cyfrol (1805-1811)
Llyfrau ac erthyglau amdanoGolygu
- D.E. Jenkins, The Life of the Rev. Thomas Charles, B.A., of Bala, 3 cyf. (1908)
- E. Wyn James, 'Bala a'r Beibl: Thomas Charles, Ann Griffiths a Mary Jones' [1]
- E. Wyn James, 'Pererinion ar y Ffordd: Thomas Charles ac Ann Griffiths', Cylchgrawn Hanes Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, 29-30 (2005-06)
- R. Tudur Jones, Thomas Charles o'r Bala, Gwas y Gair a Chyfaill Cenedl (1979)
- R. Tudur Jones, 'Diwylliant Thomas Charles o'r Bala', yn Ysgrifau Beirniadol IV, gol. J. E. Caerwyn Williams (1969)