Llythrennedd

(Ailgyfeiriad o Llythrenedd)

Llythrennedd yw'r gallu i ddarllen ac ysgrifennu. Mae canrannau llythrennedd yn amrywio'n fawr o wlad i wlad ac yn cael ei gyfrif fel un o'r mynegeion datblygu gan gyrff fel UNESCO, er enghraifft yr Indecs Datblygiad Dynol; mewn gwledydd cyfoethog mae bron pawb yn meddu ar lythrennedd tra bod lefelau llythrennedd mor isel â 10-15% mewn rhai gwledydd tlawd, yn bennaf yn yr Affrica is-Saharaidd. Yn y gorffennol ychydig iawn o bobl oedd yn medru darllen ac ysgrifennu, a'r rhan fwyaf yn perthyn i'r dosbarthiadau breintiedig neu'n offeiriaid. Erbyn heddiw mae bod yn anllythrennog yn anfantais fawr yn y byd ac yn debyg o gadw pobl mewn tlodi.

Map o'r byd yn dangos lefelau llythrennedd yn ôl y wlad yn 2015 (2015 CIA World Factbook) Llwyd = dim data
Hanerwyd anllythrennedd y byd rhwng 1970 a 2005.
Rhannau'r ymennydd sy'n ymwneud â chaffael llythrennedd

Arolwg o lythrennedd yn y gorffennol

golygu
 
Ymlediad araf llythrennedd yn yr Henfyd. Roedd yr ardaloedd mewn glas tywyll yn mwynhau lefel uchel o lythrennedd erbyn tua 2300 CC. Roedd llythrennedd yn bod yn yr ardaloedd gwyrdd tywyll erbyn tua 1300 CC a'r ardaloedd gwyrdd ysgafn erbyn tua 300 CC. Nid yw'r map yn dangos rhai o'r ardaloedd yn Asia lle ceid llythrennedd yn y cyfnodau hyn. Ond sylwer mai dim ond canran isel o'r boblogaeth oedd yn mwynhau'r hyn a elwir yn llythrennedd lawn heddiw

Yn y gorffennol roedd India a Tsieina yn mwynhau lefelau cymharol uchel o lythrennedd. Roedd prifysgolion fel yr un Fwdhaidd enwog yn Nalanda, gogledd India, yn addysgu disgyblion o bob rhan o Asia gyda phobl yn barod i deithio ymhell er mwyn cael addysg.

Mae lefel uchel y graffiti a geir mewn safleoedd Rhufeinig hynafol fel Pompeii, yn awgrymu fod nifer sylweddol yn meddu ar ryw lefel o lythrennedd.

Oherwydd ei phwyslais ar ddarllen y Coran gan unigolion yn yr Arabeg wreiddiol, mae nifer o wledydd Islamaidd wedi mwynhau lefelau uchel o lythrennedd ers deuddeg ganrif neu ragor. Yn ôl y gyfraith Islamaidd (Fatwa), mae gallu darllen y Coran yn cael ei ystyried yn ddyletswydd grefyddol.

Yn yr Oesoedd Canol roedd lefelau llythrennedd ymysg Iddewon Ewrop yn uwch nag yn y cymunedau Cristnogol. Roedd y rhan fwyaf o Iddewon gwrywaidd yn medru darllen ac ysgrifennu Hebraeg. Mae Iddewiaeth yn rhoi pwyslais mawr ar astudio'r testunau sanctaidd, fel y Tanakh a'r Talmud.

Yn Lloegr Newydd, roedd canran llythrennedd ymysg yr ymsefydlwyr Ewropeaidd dros 50% yn hanner cyntaf yr 17g, gan godi i dros 70% erbyn 1710. Erbyn amser y Chwyldro Americanaidd, roed wedi cyrraedd tua 90%. Mae'n debyg fod hyn yn ganlyniad i bwyslais y Piwritaniaid ar ddarllen y Beibl yn Saesneg.

Yng Nghymru, saethodd y lefel llythrennedd i fyny yn y 18g, pan ddechreuodd Griffith Jones redeg ei ysgolion cylchynol, gyda'r bwriad o gael pawb o'r werin i fedru darllen y Beibl yn Gymraeg. Mae'n bur debyg fod gan Gymru'r lefel uchaf o lythrennedd yn y byd yn 1750, a hynny er gwaethaf y ffaith fod yr ysgolion swyddogol yn uniaith Saesneg.

Anllythrennedd heddiw

golygu

Mae nifer o gyrff ac unigolion wedi lleisio eu consyrn am lefelau anllythrennedd ym mhoblogaeth y byd, er gwaethaf y ffaith fod canrannau llythrennedd wedi codi'n gyson dros y degawdau diwethaf, yn arbennig yn y trydydd fyd. Eithriad i'r drefn arferol oedd y gwledydd hynny yn y trydydd fyd a ddilynai ideoleg Farcsaidd (Gweriniaeth Pobl Tsieina, Cuba, a Fietnam, er enghraifft), a brofasant dyfiant ymhlith y mwyaf syfrdanol yn hanes y byd, gan agosáu at y lefelau a geir yng Nghanada ac Ewrop (ers degawdau mae lefel llythrennedd Cuba yn uwch na'r lefel yn yr Unol Daleithiau). Yn ôl diffiniad y Cenhedloedd Unedig o anllythrennedd fel "bod heb fedru darllen neu ysgrifennu brawddeg elfennol mewn unrhyw iaith," roedd 20% o boblogaeth y byd yn anllythrennog ym 1998, gyda'r mwyafrif ohonynt yn byw yn Affrica islaw'r Sahara a rhannau o Asia.

Dolenni allanol

golygu
Chwiliwch am llythrennedd
yn Wiciadur.