Ysgol y Garnedd

ysgol gynradd Gymraeg yng Ngwynedd

Ysgol gynradd iaith gymraeg ym Mangor yw Ysgol y Garnedd. Mae’r ysgol wedi ei leoli ym Mhenrhosgarnedd, ddim yn bell o Ysgol Tryfan ac Ysbyty Gwynedd. Pennaeth yr ysgol yw Llion Williams, ac mae 47 aelod o staff yn gweithio yn yr ysgol. Mae’r ysgol wedi’i rannu yn Adran Babanod ac Adran Iau, ac mae chwe dosbarth i bob adran.[1]

Ym mis Tachwedd 2020, symudodd yr ysgol i adeilad newydd sbon a adeiladwyd gerllaw. Mae'r adeilad yn cynnwys ystafell gerdd bwrpasol, ystafell goginio, campfa a neuadd.[2] Mae gan yr adeilad le ar gyfer 420 o ddisgyblion a penderfynodd y cyngor gau Ysgol Glanadda ac Ysgol Babanod Coedmawr yn cau yn 2020 gyda'r disgyblion yn symud i Ysgol y Garnedd,.[3]

Addysg golygu

Mae cwricwlwm yr ysgol yn bennaf yn cynnwys gwaith thematig. Clustnodir amser penodedig i rai pynciau; yn arbennig Mathemateg, Addysg Gorfforol a Cherdd. Caiff y gwersi ei gynnal trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, heb law am wersi iaith Saesneg.

Cyfeiriadau golygu

  1. http://www.ysgolygarnedd.org.uk/prospectws.html
  2.  Disgyblion y Garnedd wedi gwirioni â'u hysgol newydd. Cyngor Gwynedd (4 Tachwedd 2020). Adalwyd ar 9 Awst 2021.
  3. Cyngor Gwynedd yn penderfynu cau dwy ysgol ym Mangor , BBC Cymru Fyw, 3 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd ar 9 Awst 2021.