Penrhosgarnedd

un o faestrefi Bangor, Gwynedd

Pentref ydy Penrhosgarnedd ("Cymorth – Sain" ynganiad ), sy'n rhan o blwyf Pentir, wedi ei leoli i'r de o ddinas Bangor yng Ngwynedd. Mae'r pentref yn cael ei ffinio gan yr A55 i'r de ac yn toddi fewn i Fangor wrth ymyl hen gapel Beulah i'r gogledd. Saif pentref Treborth i'r gorllewin ac ardal Minffordd i'r dwyrain.

Penrhosgarnedd
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.20863°N 4.163953°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)
Map

Mae adeiladau Ysbyty Gwynedd yn sefyll ynghanol y pentre ac mae swyddfeydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yma (gynt yn Dŵr Cymru).

Mae gan y pentre gangen o Ferched y Wawr[1] a thîm Talwrn y Beirdd.[2]

Mae yna ddwy ysgol gynradd yn y pentre - ysgol ddwyieithog Ysgol Y Faenol ac ysgol benodedig Gymraeg Ysgol y Garnedd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[4]

Pobl nodedig golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Cangen Merched y Wawr Penrhosgarnedd
  2. "Llion Jones". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-09. Cyrchwyd 2016-02-09.
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato