Ysbyty Gwynedd
Ysbyty ym Mangor, Gwynedd
Ysbyty cyffredinol mwyaf Gwynedd, ar safle ym Mhenrhosgarnedd rhwng yr A55 a dinas Bangor, ydy Ysbyty Gwynedd. Dyma bencadlys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n un o ymddiriedolaethau iechyd GIG Cymru. Mae talgylch yr ysbyty yn cynnwys y rhan fwyaf o Wynedd ei hun, Ynys Môn, a rhannau o sir Conwy (cleifion Ysbyty Cyffredinol Llandudno a Bryn y Neuadd).
![]() | |
Math |
ysbyty ![]() |
---|---|
| |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Gwynedd, Penrhosgarnedd ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.21°N 4.16°W ![]() |
Rheolir gan |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ![]() |
![]() | |
Ceir dros 550 gwely yn yr ysbyty sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau meddygol dwys a llawfeddygol, yn cynnwys uned damwain fawr, gofal dwys, gofal calon, ac adrannau seiciatreg, mamolaeth a gofal babanod arbenigol. Yma hefyd y ceir prif ganolfan meddyginiaeth yr ardal.