Ysgol y Parc, Penllyn
Ysgol fechan ym Mhenllyn ger y Bala ydy Ysgol y Parc.
Yn 2010, penderfynodd cynghorwyr Cyngor Sir Gwynedd ymgynghoriad ynglŷn â chau'r ysgol erbyn Medi 2012 ond gwelwyd gwrthwynebiad lleol, gyda nifer o'r trigolion yn ymladd i gadw'r ysgol ar agor.[1] Mae cyn-ddisgyblion yr ysgol yn amrywio o fod yn athrawon, cerddorion, cyfansoddwyr, amaethwyr i fod yn rhywun sydd wedi nofio ar draws foroedd y byd.[angen ffynhonnell] Yn 2010 hefyd, cynhaliwyd Gŵyl y Parc i geisio codi arian ar gyfer achub yr ysgol.
Ym mis Mai 2011, cyhoeddodd Ffred Ffransis y byddai yn mynd heb ddŵr na bwyd am 50 awr fel rhan o brotest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn erbyn y cynlluniau Cyngor Gwynedd i gau'r ysgol.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyngor o blaid cau ysgolion yn ardal y Berwyn BBC Newyddion. 15-07-2010. Adalwyd ar 31-08-2010
- ↑ Tudalen Newyddion Golwg360