Ffred Ffransis
ieithydd (1948- )
Ymgyrchydd blaenllaw dros yr iaith Gymraeg yw Ffred Ffransis (ganwyd Frederick Sefton Francis, 14 Mehefin 1948).
Ffred Ffransis | |
---|---|
Ganwyd | 14 Mehefin 1948 Bae Colwyn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ieithydd |
Ganwyd Ffransis ym Mae Colwyn ar y 14eg o Fehefin 1948 yn fab i Anne Marjorie a Frederick Josiah Francis. Cafodd ei fagu yn Y Rhyl cyn mynd i astudio ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, lle daeth yn rhugl yn yr iaith Gymraeg.
Fe ddaeth yn ymglymedig gyda'r sîn Gymraeg yn gyflym iawn, ac fe arweiniodd hyn at ei waith gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg sydd wedi para am dros ddeugain mlynedd hyd heddiw.
Mae yn fab-yng-nghyfraith i Gwynfor Evans, Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru.