Y cyngor sy'n rheoli awdurdod Gwynedd yw Cyngor Gwynedd (Saesneg: Gwynedd Council). Yn wahanol i'r rhan fwyaf o awdurdodau eraill Cymru, nid yw'r cyngor yn defnyddio "Sir" yn ei enw. Roedd y cyngor a reolai awdurdod blaenorol Gwynedd, rhwng 1974 a 1996, yn defnyddio'r enw Cyngor Sir Gwynedd. Mae pencadlys y cyngor yn nhref Caernarfon.

Cyngor Gwynedd
Mathawdurdod unedol yng Nghymru Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Pencadlys Cyngor Gwynedd

Mae 71 o wardiau etholiadol, yn ethol 75 o gynghorwyr. Y sefyllfa bresennol yw:

Blwyddyn Plaid Cymru Annibynnol neu aelod unigol Llais Gwynedd Llafur Democratiaid Rhyddfrydol
2016[1] 39 21 8 5 2

Ffurfiwyd Llais Gwynedd i ymladd etholiad 2008, fel rhan o ymgyrch i geisio atal cynllun i gau nifer sylweddol o ysgolion cynradd Gwynedd.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. [1] Cydwysedd Gwleidyddol y Cyngor 2016

Dolen allanol golygu