Cymeriad y ceir y cyfeiriad cynharaf ato sydd ar glawr yn Llyfr Du Caerfyrddin (13g) yw Ysgolan neu (mewn rhai ffynonellau diweddarach) Bardd Ysgolan. Ymddengys ei fod yn 'ysgolhaig' (clerigwr) ac yn gyfrifol, yn ôl traddodiad, am ddifetha nifer o lyfrau Cymraeg gwerthfawr. Ceir cymeriad cyffelyb yn nhraddodiad Llydaw hefyd.

Yn ôl y gerdd yn Llyfr Du Caerfyrddin, roedd Ysgolan wedi llosgi eglwys, lladd buwch a difetha llyfr arbennig. Am hynny mae'n dwyn penyd a thybir y bu chwedl amdano ar un adeg. Ymddiddan yw'r gerdd, rhwng marchog du (Ysgolan) ar farch du a holwr dienw. Penyd Ysgolan oedd cael ei dodi ar bawl cored ym Mangor (ceir sawl Bangor; Bangor Is Coed efallai).

Ceir nifer o gyfeiriadau diweddarach at Ysgolan, er enghraifft gan Dafydd ap Gwilym yn y gerdd 'Chwarae Cnau i'm llaw'. Daeth yn gymeriad yn y Canu Darogan hefyd ac mae'n amlwg fod iddo arwyddocad arbennig. Mae rhai ffynonellau o'r 16g yn ei gysylltu â llosgi llyfrau Cymraeg yn Nhŵr Llundain yng nghyfnod gwrthryfel Owain Glyndŵr, ond mae hynny'n newid o'r traddodiad cynharach.

Yn Llydaw ceir traddodiadau am Skolan (hefyd Skoulvanig, Skoulvan, Skolvant, Skolvan[1]) a gofnodir gan La Villemarqué yn y 19g (Barzaz Breiz). Recordiwyd fersiwn o'r gwerz "Skolvan, Skolvan, Eskob Leon" gan Anne Auffret (gyda'r geiriau a chyfieithiad i'r Ffrangeg) yn 1977.

Cyfeiriadau golygu

  1. Jarman, A.O.H. (1977). "Cerdd Ysgolan". Ysgrifau Beirniadol 10: 51-78.