Ysgwydd

Mewn anatomeg ddynol, yr ysgwydd ydy'r rhan ble mae'r hwmerws yn cysylltu gyda'r sgapiwla gan ffurfio cymal. Clwstwr o strwythuarau yn yr rdal yma, felly, ydy'r ysgwydd. Rhan ucha'r ysgwydd, sy'n cysylltu â'r gwddf ydy pont yr ysgwydd neu clificl i ddefnyddio geirfa arferol anatomi.

Tatŵ Clwb Pêl-droed Lerpwl ar ysgwydd un o'r cefnogwyr.
Leonardo da Vinci - Anatomical studies of the shoulder - WGA12824.jpg
Data cyffredinol
Mathun o brif rannau'r corff, subdivision of pectoral girdle Edit this on Wikidata
Rhan oaelod uchaf Edit this on Wikidata
Cysylltir gydapectoral girdle, Gwddf Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'n rhaid i'r ysgwydd fedru amrywio cyfeiriad y braich mewn cylch o 360 gradd; ond yn fwy na hyn (ac yn wahanol i'r penglin), mae'n rhaid iddo fod yn aruthrol o gryf i dynnu, gwthio a chodi pethau trwm. Oherwydd y grymoedd o gyfeiriadau gwahanol a'r pwysau aruthro yma ar yr ysgwydd, mae llawer o bobl yn cael problemau meddygol gyda'r ysgwydd.