Yr astudiaeth wyddonol o forffoleg y corff (ffurf, siap a golwg organau a ffurfiannau eraill) y corff dynol ydy anatomeg ddynol (hefyd anatomi dynol). Mae dwy ran iddi:

  • anatomeg topograffig: yr astudiaeth o strwythurau y gellir eu gweld gyda'r llygad noeth;
  • anatomeg microscopig: yr astudiaeth o strwythurau'r corff gyda chymorth microsgop ac offer tebyg.
Anatomeg ddynol
Enghraifft o'r canlynolcangen o wyddoniaeth, disgyblaeth academaidd Edit this on Wikidata
Rhan omammal anatomy, meddygaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Defyddir yr ysgerbwd yn aml gan fyfyrwyr meddygol wrth astudio'r corff dynol.

Mae anatomeg dynol hefyd yn un o'r dair astudiaeth sy'n ffurfio meddygaeth; y ddwy ran arall ydy: anatomeg ffisiolegol (sut mae'r corff yn gweithio) ac yn symud a biocemeg, sef yr astudiaeth gemegol o'r corff.

Mae gan y corff dynol systemau biolegol (gweler isod) sy'n cynnwys organau wedi'u gwneud o feinwe, sydd yn ei dro yn cynnwys celloedd a meinwe cysylltiol.

Mae'r asudiaeth o'r corff dynol wedi carlamu ymlaen oherwydd technoleg yn ystod y ganrif ddiwethaf, gan ymestyn hyd bywyd dyn.

Darlun cynnar gan Leonardo da Vinci.

Astudio'r corff dynol golygu

Mae'r gweithwyr canlynol i gyd wedi astudio, ac yn parhau i astudio anatomeg ddynol: deintyddion, geinecolegwyr, ffisiotherapyddion, nyrsys, parafeddygon, radiograffyddion a meddygon drwy gymorth diagramau, llyfrau, gwefannau, ysgerbydau, modelau, cyrff marw, lluniau, darlithoedd ayb. Gellir astudio anatomi'r corff mewn (o leiaf) dwy ffordd:

  • o ran lleoliad;
  • o ran pwrpas.

Oherwydd dylanwad Gray's Anatomy, fel arfer rydym yn dosbarthu yn ôl lleoliad.

Dosbarthu yn ôl lleoliad golygu

 

Systemau'r corff dynol golygu

Beth yw pwrpas y gwahanol rannau a sut maen nhw'n cysylltu a chydweithio gyda'i gilydd? Dyma ddull arall o ddosbarthu'r corff i wahanol gategoriau.

Anatomi gweledol golygu

Weithiau rydym yn dosbarthu yn ôl yr hyn y gallwn ei weld gyda'r llygad; mae hyn yn gymorth i ddarganfod lleoliad rhannau llai, mewnol.

Yr organau mewnol golygu

Dyma enwau'r prif organau (yn nhrefn yr Wyddor):

Gweler hefyd golygu