Braich
Aelod uchaf mamolion deudroed yw braich, wedi'i lleoli rhwng yr ysgwydd a'r llaw. Mae'r gair Cymraeg 'braich' yn gytras â brech yn yr Hen Gernyweg a breac'h yn Llydaweg ac mae'r tri gair hyn yn tarddu o'r gair Lladin bracchium.[1] Fe'i cofnodir yn Gymraeg mor bell yn ôl â 1200: '..hyd nes y cyrhaeddodd at hyd braich...'.
AnatomiGolygu
Sgetsis yn dyddio nôl i 1510 gan yr arlunydd a'r dyfeisydd Leonardo da Vinci.
Mae'r fraich yn cynnwys 30 asgwrn, cymalau, cyhyrau a gwythiennau gwaed. Mae'r rhan fwyaf o'r cyhyrau'n cael eu defnyddio'n ddyddiol i wneud tasgau dyddiol, arferol.
Yr esgyrnGolygu
Yn rhan uchaf y fraich ceir asgwrn a elwir yn humerws. Mae'n cyfarfod y sgapiwla ychydig yn uwch na chymal yr ysgwydd a chyda'r wlna a'r radiws yn y cymal penelin.
Mae'r humerws yn asgwrn cryf iawn a gall godi, ar gyfartaledd, 300 pwys.
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Henry Lewis, Yr Elfen Ladin yn yr iaith Gymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1943), pennodau 4, 80.