Yuval Noah Harari

Hanesydd o Israel yw Yuval Noah Harari (Hebraeg: יובל נח הררי}}; ganwyd 24 Chwefror 1976).[1] Mae'n athro yn yr Adran Hanes ym Mhrifysgol Hebraeg Jerusalem. Ef yw awdur y cyfrolau Sapiens: A Brief History of Humankind (2014), Homo Deus: A Brief History of Tomorrow (2016), a 21 Lessons for the 21st Century (2018). Mae ei ysgrifau yn trafod ewyllys rydd, ymwybyddiaeth a deallusrwydd.

Yuval Noah Harari
Ganwydיובל נח הררי Edit this on Wikidata
24 Chwefror 1976 Edit this on Wikidata
Kiryat Ata Edit this on Wikidata
Man preswylMesilat Zion Edit this on Wikidata
DinasyddiaethIsrael Edit this on Wikidata
Addysgdoethuriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Steven Gunn Edit this on Wikidata
Galwedigaetharbenigwr yn yr Oesoedd Canol, popular science author, hanesydd milwrol, athronydd, llenor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amSapiens: A Brief History of Humankind, Homo Deus: A Brief History of Tomorrow, 21 Lessons for the 21st Century Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadJared Diamond, S. N. Goenka Edit this on Wikidata
Gwobr/auDoethor Anrhydeddus Prifysgol Brwsel Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.ynharari.com Edit this on Wikidata
llofnod

Mae cyhoeddiadau cynnar Harari trafod yr hyn mae'n ei ddisgrifio fel "chwyldro dirnadol" a ddigwyddodd tua 50,000 o flynyddoedd yn ôl, pan gafodd Neanderthaliaid eu disodli gan Homo sapiens, gan ddatblygu sgiliau ieithyddol a chymdeithasau strwythuredig, ac esgyn fel ysglyfaethwyr apig , gyda chymorth y chwyldro amaethyddol a gyflymwyd yn ddiweddar gan fethodoleg a rhesymeg wyddonol sydd wedi galluogi'r ddynoliaeth i gyrraedd y nesaf peth ar feistrolaeth o'u hamgylchedd.

Mae ei lyfrau diweddar yn fwy rhybuddiol, ac yn gweithio trwy oblygiadau byd biodechnolegol ble mae creadigaethau yn rhagori ar yr organebau deallus sydd wedi'u creu yn y lle cyntaf. Mae'n proffwydo y bydd Homo sapiens, fel ag yr ydym ni'n eu hadnabod, yn diflannu mewn tua chanrif.[2]

Bywgraffad

golygu

Ganwyd Harari yn Kiryat Ata, Israel, yn 1976 ac fe'i magwyd yn aelod o deulu Iddewig seciwlar[3] gyda gwreiddiau Libanaidd a Dwyrain Ewropeaidd yn Haifa, Israel.[4] Bu iddo gyfarfod ei wr Itzik Yahav yn 2002.[5][6] Yahav yw rheolwr personol Harari hefyd.[7] Priododd y ddau mewn seremoni sifil yn Toronto, Canada.[8] Maent yn byw mewn moshav (math o gymuned amaethyddol gydweithredol o ffermydd unigol), Mesilat Zion, ger Jerusalem.[9][10][11]

Athroniaeth

golygu

Mae Harari yn dweud bod myfyrdod Vipassana, y dechreuodd ei arfer pan oedd yn Rhydychen yn 2000,[12] wedi gweddnewid ei fywyd.[13] Mae'n myfyrio am ddwyawr bob dydd (awr ar ddechrau ac awr arall ar ddiwedd diwrnod o waith[14]), yn mynd i encil myfyrio am o leiaf 30 o ddiwrnodau bob blwyddyn, mewn distawrwydd a heb unrhyw lyfrau na chyfryngau cymdeithasol,[15][16] ac mae'n athro cynorthwyol sy'n hyfforddi eraill i fyfyrio.[17] Cyflwynodd ei gyfrol Homo Deus i'w athro S. N. Goenka.[18] Mae hefyd yn ystyried myfyrdod fel dull o ymchwilio.

Mae Harari yn fegan, ac yn dweud bod hyn o ganlyniad i'w ymchwil, a'i farn bod y diwydiant llaeth wedi'i seilio ar dorri'r berthynas rhwng mam a'i llo.[19] Nid yw wedi perchen ffon clyfar ers Medi 2017.[20]

Arbenigodd Harari mewn hanes y canol oesoedd a hanes milwrol yn y lle cyntaf, pan oedd yn astudio ym Mhrifysgol Hebraeg Jerusalem rhwng 1993 a 1998. Cwblhaodd ei DPhil (doethuriaeth) yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, yn 2002 dan oruchwyliaeth Steven J. Gunn. Rhwng 2003 a 2005 bu'n cynnal astudiaethau ol-ddoethurol fel Cymrawd Yad Hanadiv.[21]

Cyhoeddiadau

golygu

Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ac erthyglau, gan cynnwys Special Operations in the Age of Chivalry, 1100–1550;[22] The Ultimate Experience: Battlefield Revelations and the Making of Modern War Culture, 1450–2000;[23] The Concept of 'Decisive Battles' in World History;[24] and Armchairs, Coffee and Authority: Eye-witnesses and Flesh-witnesses Speak about War, 1100–2000.[25] Mae nawr yn arbenigo mewn hanes byd a phrosesau macro-hanesyddol.

Cyhoeddwyd ei lyfr Sapiens: A Brief History of Humankind mewn Hebraeg yn 2011 ac yna yn Saesneg yn 2014; mae bellach wedi'i gyfieithu i dros 30 o ieithoedd eraill.[26] Mae'r llyfr yn bwrw golwg dros holl hanes y ddynoliaeth, o esblygiad Homo sapiens yn Oes y Cerrig i chwyldroadau gwleidyddol a thechnolegol y 21g. Daeth yr argraffiad Hebraeg yn un o'r gwerthwyr gorau yn Iseael, a chafodd lawr o ddiddordeb gan y gymuned academaidd yn ogystal a'r cyhoedd, gan ddod a chryn enwogrwydd i Harari.[27] Mae fideos YouTube video o ddarlithoedd Hebraeg Harari wedi'u eu gwylio gan ddegau o filoedd o Israeliaid.[28]

Mae Harari hefyd yn cynnal cwrs ar-lein yn Saesneg am ddim o'r enw English titled A Brief History of Humankind.

Cenedlaetholdeb

golygu

Mae barn Harari ar genedlaetholdeb sy'n sy'n debycach i ddealltwriaeth Gymreig o'r term. Daeth hyn i'r amlwg yn ystod Rhyfel Rwsia ar Wcráin yn 2022.

Dywedd mewn cyfweliad, "We somehow got this mistaken idea in the West that'nationalism' and 'liberalism' are opposite and you can be one or the other, and this is the deep root of the culture war in the West. And Ukraine [rhyfel Wcrain] showed us, this is not true. You don't need to think in this binary terms - nationalism and liberalism can be allies. If you understand nationalism not as hatred of foreigners or hatred of minorities but as loving your compatriots and taking care of them, then nationalism and liberalism go together. They unite around the values of freedom and of taking care of your fellow citizens, and this is why Left and Right (I've been watching it on Fox News) they are suddenly on the same page."[29]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Yuval Harari site, at the Hebrew University of Jerusalem site
  2. Andrew Anthony, Lucy Prebble, Arianna Huffington, Esther Rantzen and a selection of our readers (19 March 2017). "Yuval Noah Harari: 'Homo sapiens as we know them will disappear in a century or so'". The Observer (yn Saesneg). ISSN 0029-7712. Cyrchwyd 17 March 2018.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  3. Les prédictions de Yuval Noah Harrari, L'arche magazine
  4. Cadwalladr, Carole (5 July 2015). "Yuval Noah Harari: The age of the cyborg has begun – and the consequences cannot be known". Cyrchwyd 2 November 2016.
  5. Adams, Tim (27 August 2016). "Yuval Noah Harari: 'We are acquiring powers thought to be divine'". the Guardian. Cyrchwyd 17 March 2018.
  6. "Fast Talk / The Road to Happiness". Haaretz. 25 April 2012. Cyrchwyd 17 March 2018.
  7. "זה ייגמר בבכי: סוף העולם לפי יובל נח הררי". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-11. Cyrchwyd 17 March 2018.
  8. "Sadly, superhumans in the end are not going to be us". Mumbai Mirror. The Times Group. 14 October 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-01. Cyrchwyd 17 March 2018.
  9. "Fast Talk The Road to Happiness". Haaretz. 25 April 2017.
  10. Appleyard, Bryan (31 August 2014). "Asking big questions". thesundaytimes.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-06. Cyrchwyd 25 July 2015.
  11. Reed, John (5 September 2014). "Lunch with the FT: Yuval Noah Harari". ft.com. Cyrchwyd 25 July 2015.
  12. "Yuval Harari, author of "Sapiens," on AI, religion, and 60-day meditation retreats". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-12. Cyrchwyd 17 March 2018.
  13. Adams, Tim (27 August 2016). "Yuval Noah Harari: 'We are quickly acquiring powers that were always thought to be divine'".
  14. "How Humankind Could Become Totally Useless". Time. Cyrchwyd 17 March 2018.
  15. "Interview - Yuval Harari" (PDF). The World Today. Chatham House. October–November 2015. tt. 30–32. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 12 December 2017. Cyrchwyd 17 March 2018. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  16. "Yuval Noah Harari, Sapiens and the age of the algorithm". The Australian. Josh Glancy. 3 September 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 November 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  17. "The messenger of inner peace: Satya Narayan Goenka; New Appointments". Vipassana Newsletter 23 (12). Vipassana Research Institute. 17 December 2013. Cyrchwyd 17 March 2018.
  18. Homo Deus, dedication and Acknowledgements p426
  19. "Interview With Yuval Noah Harari: Masters in Business (Audio)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-30. Cyrchwyd 17 March 2018.
  20. "# 68 -- Reality and the Imagination". Waking Up podcast. Sam Harris. 19 March 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-04-20. Cyrchwyd 17 March 2018.
  21. "CV at The Hebrew University of Jerusalem". 2008.
  22. Yuval Noah Harari, Special Operations in the Age of Chivalry, 1100–1550 (Woodbridge: Boydell & Brewer, 2007)
  23. Yuval Noah Harari, The Ultimate Experience: Battlefield Revelations and the Making of Modern War Culture, 1450–2000 (Houndmills: Palgrave-Macmillan, 2008)
  24. Yuval Noah Harari, The Concept of 'Decisive Battles' in World History, in Journal of World History 18:3 (2007), 251–266.
  25. Yuval Noah Harari, "Armchairs, Coffee and Authority: Eye-witnesses and Flesh-witnesses Speak about War, 1100–2000", The Journal of Military History 74:1 (January 2010), pp. 53–78.
  26. Payne, Tom (26 September 2014). "Sapiens: a Brief History of Humankind by Yuval Noah Harari, review: 'urgent questions'". The Telegraph. Cyrchwyd 29 October 2014.
  27. Fast talk / The road to happiness, in Haaretz, 25 April 2012
  28. "A Brief History of Mankind course, in the Hebrew University of Jerusalem channel in YouTube (in Hebrew)
  29. "Putin has Already Lost". Sianel Youtube GEOPOP. 2022-03-10. Text " Yuval Noah Harari " ignored (help)