Zipline Creative Limited

cwmni ffilm]o Dde Cymru

Cwmni ffilm o Dde Cymru ydy Zipline Creative Limited sy'n enillydd Gwobr BAFTA. Un o weithiau'r cwmni ydy cyfres Rhod Gilbert, y digrifwr, wedi'i seilio ar brofiad gwaith. Mae Zipline Creative hefyd wedi cyhoeddi (ar y cyd â Heddlu Gwent) ymgyrch ar gyfer gyrwyr: Don't Text And Drive a gafodd glod rhyngwladol.[1]

Zipline Creative Limited
Math
busnes
Diwydiantdarlledu
Sefydlwyd2008
PencadlysCaerdydd
Gwefanhttps://www.ziplinecreative.co.uk/ Edit this on Wikidata

Sefydlwyd y cwmni yn 2008 gan ddau o weithwyr y BBC ac mae wedi'i leoli yn Rhisga.

Profiad gwaith

golygu

Ymhlith y profiadau a ffilmiwyd o Rod Gilbert ar brofiad gwaith mae:

  • Dyn Lludw: yn Nyffryn Morgannwg
  • Mam: Gweithiodd gyda theulu o saith o blant gan gymryd dyletswyddau'r fam: gan gynnwys newid clytiau'r babi
  • Trinydd gwallt: parhaodd yr hyfforddi am ddeuddydd yngh nghwmni Andrew Price cyn iddo dorri gwallt person go iawn
  • Milwr: ymunodd ag ymarferion yr Infantry Battle School.

Rhoddodd y Times 4/5 seren am y gyfres a dewisiwyd y gyfres yn ei golofn deledu gan y Guardian a'r Daily Mail. Roedd ffigurau gwylio'r gyfres gyntaf yn 1.4 miliwn a'r ail yn 1.2 miliwn.

Cyfeiriadau

golygu

Dolennau allanol

golygu