Hanesydd Groeg (fl. 5fed ganrif) oedd yn swyddog uchel yn y wladwriaeth yng Nghaergystennin yn ail hanner y 5fed ganrif.

Zosimus
Ganwydc. 460 Edit this on Wikidata
Bu farwc. 520 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Fysantaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethhanesydd, llenor Edit this on Wikidata
Blodeuodd490 Edit this on Wikidata
Adnabyddus amHistoria Nova Edit this on Wikidata

Mae'n awdur llyfr hanes ar Gwymp yr Ymerodraeth Rufeinig a nodweddir gan safbwynt rhyddfrydig ac amgyffred ddeallus. Un o'i ffynonellau oedd gwaith coll Eunapius.

Mae'n llyfr mewn chwech rhan:

(i) Y cyfnod rhwng teyrnasiad Augustus a theyrnasiad Diocletian.
(ii-iv) Y cyfnod hyd at ymraniad yr ymerodraeth gan Theodosius Fawr.
(v-vi) Astudiaeth fanwl o'r cyfnod 395-410.

Ymddengys na chafodd Zosimus yr amser i orffen y gwaith, oedd yn fod i gynnwys digwyddiadau ei oes ei hun.

Mae Zosimus yn rhoi'r bai am gwymp yr ymerodraeth ar ddymchwel y grefydd baganaidd a mabwysiadu Cristionogaeth fel unig grefydd swyddogol yr ymerodraeth. Mae'n barnu'r ymerodr Cystennin yn hallt.