Cymdeithasegydd Pwylaidd oedd Zygmunt Bauman (19 Tachwedd 19259 Ionawr 2017). Mae ei waith yn ymwneud â modernedd, prynwriaeth, globaleiddio, ac effeithiau newidiadau economaidd a chymdeithasol ar bobl dlawd.

Zygmunt Bauman
Ganwyd19 Tachwedd 1925 Edit this on Wikidata
Poznań Edit this on Wikidata
Bu farw9 Ionawr 2017 Edit this on Wikidata
Leeds Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGwlad Pwyl, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Addysgscientific professorship degree Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, cymdeithasegydd, academydd, llenor, gohebydd gyda'i farn annibynnol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid WleidyddolPolish United Workers' Party Edit this on Wikidata
PriodJanina Bauman Edit this on Wikidata
PlantIrena Bauman Edit this on Wikidata
PerthnasauMichael Sfard Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Aur Diwylliant Meritorious o Gloria Artis, Medal y 10fed canmlwyddiant pobol y Pwyl, Gwobr Theodor W. Adorno, Princess of Asturias Award for Communications and Humanities, Croes am Ddewrder, European Amalfi Prize for Sociology and Social Sciences, honorary doctor of the University of Gothenburg, Doctor Honoris Causa at the Vytautas Magnus University, The VIZE 97 Prize Edit this on Wikidata

Ganed yn Poznań, Ail Weriniaeth Gwlad Pwyl. Yn sgil goresgyniad yr Almaenwyr yn 1939, ffoes Bauman a'i deulu i'r Undeb Sofietaidd ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe wasanaethodd mewn llu Pwylaidd dan reolaeth y Fyddin Goch. Yn y cyfnod hwn bu Bauman yn aelod o grŵp Stalinaidd. Dychwelodd i Wlad Pwyl wedi diwedd y rhyfel, ac yn y 1950au fe astudiodd gymdeithaseg ac athroniaeth ym Mhrifysgol Warsaw. Penodwyd yn athro cymdeithaseg yn Warsaw. Bu'n rhaid iddo ymddiswyddo o ganlyniad i ymgyrch wrth-Semitaidd yn 1968 ac ymfudodd i Israel, ac addysgodd am gyfnod byr yn Tel Aviv ac yn Haifa. Yn 1971 symudodd Bauman i Loegr i gymryd swydd ym Mhrifysgol Leeds. Ymddeolodd o Brifysgol Leeds yn 1991.

Gwobrwywyd iddo Wobr Amalfi yn 1989, Gwobr Theodor W. Adorno yn 1998, a Gwobr Tywysog Astwrias am gyfathrebu a'r dyniaethau yn 2010.[1] Bu farw yn Leeds yn 91 oed.

Llyfryddiaeth ddethol

golygu
  • Culture as Praxis (1973).
  • Modernity and the Holocaust (1989).
  • Modernity and Ambivalence (1991).
  • Postmodernity and Its Discontents (1997).
  • Globalization: The Human Consequences (1998).
  • Liquid Modernity (2000).
  • The Individualized Society (2001).
  • Wasted Lives: Modernity and Its Outcasts (2003).
  • Strangers at Our Door (2016).

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Zygmunt Bauman. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Ionawr 2020.