Globaleiddio

proses integreiddio rhyngwladol yn deillio o gyfnewid barn, cynhyrchion, syniadau, ac agweddau eraill o ddiwylliant y byd

Mae'r term globaleiddio yn cyfeirio at y gyd-ddibyniaeth, integreiddiad a rhyngweithiad cynyddol rhwng pobl a chwmnïau ar draws y byd. Mae'r broses hon yn lleihau rhwystrau rhyngwladol ac felly'n arwain at gydberthnasau economaidd, masnachol, cymdeithasol, technolegol, diwylliannol, gwleidyddol ac amgylcheddol.

Mae sawl diffiniad posib o lobaleiddio. Yn ôl Encyclopedia Britannica, "proses lle mae'r profiad o fywyd pob dydd ... yn dod yn fwyfwy unfath ar draws y byd" ydyw. Mewn economeg, gellid diffinio Globaleiddio yn gydgyfeiriad prisiau, cynnyrch, cyflogau, cyfraddau buddiant ac elw tuag at yr hyn sy'n arferol mewn gwledydd "datblygedig". Dibynna globaleiddio economaidd ar rôl mudo dynol, masnach ryngwladol, symudiad cyfalaf, a chyfuniad marchnadoedd ariannol. Mae'r IMF yn nodi fod gwledydd ledled y byd yn dibynnu fwyfwy ar ei gilydd yn economegol, a hynny trwy gynnydd mewn maint ac amrywiant cyfathrach ariannol rhyngwladol ac yn y blaen. Dywedir mai Theodore Levitt oedd y cyntaf i ddefnyddio'r term mewn cyd-destyn economaidd.

Dadleuon yn erbyn Globaleiddio golygu

Mae llawer o bobl yn dadlau yn erbyn y don presennol o lobaleiddio economaidd, yntau oherwydd niwed amgylcheddol i'r blaned, neu oherwydd niwed i bobl, megis tloti cynyddol, anhafaledd, anghyfiawnder, ac erydiad diwylliant draddodiadol. Maent yn herio'r dulliau, megis GDP, a ddefnyddir i fesur cynnydd gan Banc y Byd ac eraill; gan ddefnyddio dulliau fel y Mynegai Planed Hapus,[1] a grëwyd gan yr NEF[2].

Cyfeiriadau golygu

  1. "The Happy Planet Index" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2009-10-04. Cyrchwyd 2007-08-16.
  2. "The New Economics Foundation". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-11-12. Cyrchwyd 2007-08-16.
  Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.