Badminton yng Ngemau'r Gymanwlad

twrnamaint badminton

Gwnaeth badminton ei ymddangosiad cyntaf yng Ngemau'r Gymanwlad yn ystod Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad ym 1966 yn Kingston, Jamaica.

Mae'r gamp wedi ymddangos ym mhob un o'r Gemau ers yr ymddangosiad cyntaf yn Kingston ac ers 2014, mae badminton yn un o'r 10 camp craidd sydd yn rhaid ei gynnal mewn Gemau Gymanwlad.

Gemau golygu

Gemau Blwyddyn Dinas Gwlad Gwlad mwyaf llwyddiannus
VIII 1966 Kingston   Jamaica   Lloegr
IX 1970 Caeredin   Yr Alban   Lloegr
X 1974 Christchurch   Seland Newydd   Lloegr
XI 1978 Edmonton   Canada   Lloegr
XII 1982 Brisbane   Awstralia   Lloegr
XIII 1986 Caeredin   Yr Alban   Lloegr
XIV 1990 Auckland   Seland Newydd   Lloegr
XV 1994 Victoria   Canada   Lloegr
XVI 1998 Kuala Lumpur   Maleisia   Maleisia
XVII 2002 Manceinion   Lloegr   Maleisia
XVIII 2006 Melbourne   Awstralia   Maleisia
XIX 2010 Delhi Newydd   India   Maleisia
XX 2014 Glasgow   Yr Alban   Maleisia
XXI 2018 Arfordir Aur   Awstralia

Tabl medalau golygu

Ar ôl Gemau'r Gymanwlad 2018

 Safle  Gwlad Aur Arian Efydd Cyfanswm
1   Lloegr 37 34 38 109
2   Maleisia 29 21 14 64
3   India 7 7 11 25
4   Canada 3 10 6 19
5   Awstralia 2 1 9 12
6   Singapôr 1 5 4 10
7   Yr Alban 1 2 7 10
8   Hong Cong 1 0 2 3
9   Cymru 1 0 1 2
10   Seland Newydd 0 2 9 11
Cyfanswm 82 82 101 265

Medalau'r Cymry golygu

Kelly Morgan ydi'r unig Gymro neu Gymraes i ennill medal aur badminton yng Ngemau'r Gymanwlad wedi iddi ennill Senglau'r Merched yng Ngemau'r Gymanwlad yn Kuala Lumpur, Maleisia, ym 1998.[1]

Medal Enw Pwysau Gemau
Aur Kelly Morgan Senglau'r Merched XVI
Efydd Richard Vaughan Senglau'r Dynion XVII

Cyfeiriadau golygu

  1. "Q&A: Kelly Morgan". BBCSport. 2005-08-24.