Gemau'r Gymanwlad 1998

Gemau'r Gymanwlad 1998 oedd yr unfed tro ar bymtheg i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Kuala Lumpur, Maleisia, oedd cartref y Gemau rhwng 11 - 21 Medi a dyma'r tro cyntaf i'r Gemau ymweld ag Asia. Llwyddodd Kuala Lumpur i ennill yr hawl i gynnal y Gemau yn ystod Gemau Olympaidd 1992 yn Barcelona gan sicrhau 40 pleidlais gydag Adelaide, Awstralia yn sicrhau 25. Roedd Gemau'r Gymanwlad wedi eu beirniadu yn dilyn y penderfyniad i wrthod ceisiadau New Dehli i gynnal Gemau 1990 a 1994 gan arwain at lywodraeth Canada'n nodi bod angen i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal ym mhob rhan o'r Gymanwlad ac nid i'w cyfyngu i'r gwledydd traddodiadol fel Lloegr, Awstralia, Seland Newydd a Chanada.[1]

Gemau'r Gymanwlad 1998
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad aml-chwaraeon Edit this on Wikidata
Dyddiad1998 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd11 Medi 1998 Edit this on Wikidata
Daeth i ben21 Medi 1998 Edit this on Wikidata
CyfresGemau'r Gymanwlad Edit this on Wikidata
LleoliadKuala Lumpur Edit this on Wikidata
Yn cynnwysbadminton at the 1998 Commonwealth Games, squash at the 1998 Commonwealth Games Edit this on Wikidata
RhanbarthMaleisia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
16eg Gemau'r Gymanwlad
Seremoni agoriadol11 Medi
Seremoni cau21 Medi
Agorwyd yn swyddogol ganPrif Weinidog Maleisia Mahathir Mohamad
XV XVII  >

Cafwyd campau i dimau am y tro cyntaf yn y Gemau gyda Chriced, Hoci, Pêl-rwyd a Rygbi Saith-bob-ochr yn ogystal â Bowlio Deg a Sboncen a chafwyd athletwyr o Ciribati a Twfalw am y tro cyntaf yn ogystal â dwy wlad oedd wedi ymuno â'r Gymanwlad er nad oeddent yn gyn-diriogaethau Prydeinig; Camerŵn a Mosambic.

Uchafbwyntiau'r Gemau golygu

Cafodd Mosambic ddechrau delfrydol i'w Gemau cyntaf wrth i Maria Mutola ac Argentina Paulino gipio'r fedal aur ac arian yn ras yr 800m i ferched a dathlodd Camerŵn eu hymddangosiad cyntaf yn y gemau gyda thair medal arian a thair medal efydd. Cipiodd Lesotho a Mawrisiws eu medalau aur cyntaf yn hanes y Gemau wrth i Thabiso Paul Moqhal ennill y Marathon i Lesotho gyda Richard Sunee yn dod yn fuddugol yn y sgwâr bocsio i Mawrisiws.

Gyda champau i dimau yn ymddangos am y tro cyntaf, cafwyd medal aur i dîm criced De Affrica, Crysau Duon Seland Newydd oedd yn fuddugol yn y rygbi saith-pob-ochr tra bo Awstralia'n fuddugol yn y pêl-rwyd yn ogystal â chystadlaethau hoci'r dynion a'r merched.

Ar y trac Athletau llwyddodd Atto Boldon o Trinidad a Tobago i dorri record y Gymanwlad yn y 100m i ddynion wrth ennill y fedal aur mewn 9.88 eiliad gyda Frankie Fredericks o Namibia, gasglodd y fedal arian, hefyd yn torri 10 eiliad wrth orffen mewn amser o 9.96 eiliad. Obadele Thompson o Barbados gafodd yr efydd gydag amser o 10.00 eiliad ar ei ben.[2]

Torrodd Iwan Thomas o Gymru record 400m y Gymanwlad wrth ennill y fedal aur mewn amser o 44.52 eiliad gan ychwanegu pencampwriaeth y Gymanwlad i'w fedal aur o Bencampwriaethau'r Byd a Phencampwriaethau Ewrop.[3]

Casglodd Bradley Wiggins o Loegr medal cyntaf ei yrfa beicio wrth gasglu'r fedal arian fel aelod o dîm ras yn erbyn y cloc Lloegr ac yn y pwll nofio gwnaeth Ian Thorpe o Awstralia ei ymddangosiad cyntaf yn y Gemau wrth gasglu pedair medal aur yn y 200m dull rhydd, 400m dull rhydd, 4x100m dull rhydd a 4x200m dull rhydd.

Chwaraeon golygu

Timau yn cystadlu golygu

Cafwyd 70 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, 1998 gyda Camerŵn, Namibia, Montserrat a Mosambic yn ymddangos am y tro cyntaf.

Tabl Medalau golygu

 Safle  Cenedl Aur Arian Efydd Cyfanswm
1   Awstralia 82 61 57 200
2   Lloegr 36 47 52 135
3   Canada 30 31 40 101
4   Maleisia 10 14 12 36
5   De Affrica 9 11 14 34
6   Seland Newydd 8 6 20 34
7   India 7 10 8 25
8   Cenia 7 5 4 16
9   Jamaica 4 2 0 6
10   Cymru 3 4 8 15
11   Yr Alban 3 2 7 12
12   Nawrw 3 0 0 3
13   Gogledd Iwerddon 2 1 1 4
14   Simbabwe 2 0 3 5
15   Ghana 1 1 3 5
16   Mawrisiws 1 1 2 4
17   Cyprus 1 1 1 3
  Tansanïa 1 1 1 3
  Trinidad a Tobago 1 1 1 3
20   Bahamas 1 1 0 2
  Mosambic 1 1 0 2
22   Barbados 1 0 2 3
23   Lesotho 1 0 0 1
24   Camerŵn 0 3 3 6
25   Namibia 0 2 1 3
26   Seychelles 0 2 0 2
27   Sri Lanca 0 1 1 2
28   Bermiwda 0 1 0 1
  Ffiji 0 1 0 1
  Ynys Manaw 0 1 0 1
  Pacistan 0 1 0 1
32   Papua Gini Newydd 0 0 1 1
  Wganda 0 0 1 1
  Sambia 0 0 1 1
Cyfanswm 215 215 245 675

Medalau'r Cymry golygu

Roedd 105 aelod yn nhîm Cymru.

Medal Enw Cystadleuaeth
Aur Iwan Thomas Athletau 400m
Aur Kelly Morgan Badminton Senglau
Aur Desmond Davies Saethu Skeet
Arian Christian Malcolm Athletau 200m
Arian David Morgan Codi Pwysau 77 kg (Cipiad)
Arian William Thomas
a Robert Weale
Bowlio Lawnt Parau
Arian John Price Bowlio Lawnt Senglau
Efydd Iwan Thomas
Jamie Baulch
Paul Gray
a Doug Turner
Athletau 4 x 400m
Efydd Shaun Pickering Athletau Taflu Pwysau
Efydd Kevin Evans Bocsio 91 kg
Efydd Rita Jones
ac Anne Sutherland
Bowlio Lawnt Parau
Efydd Mark Anstey
David Wilkins
Neil Rees
ac Ian Slade
Bowlio Lawnt Pedwarawd
Efydd Tony Morgan Codi Pwysau 69 kg (Cipiad)
Efydd Christopher Hockley
a David Davies
Saethu Reiffl bôr llawn
Efydd Alex Gough Sboncen Senglau

Cyfeiriadau golygu

  1. http://www.academia.edu/932294/The_Bidding_Games_The_Games_Behind_Malaysias_Bid_to_Host_the_XVIth_Commonwealth_Games
  2. http://www.thecgf.com/sports/results.asp[dolen marw]
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-01. Cyrchwyd 2013-09-26.

Dolenni allanol golygu

Rhagflaenydd:
Victoria
Gemau'r Gymanwlad
Lleoliad y Gemau
Olynydd:
Manceinion