Clawdd-coch

pentref a chymuned ym Mro Morgannwg

Pentrefan yng nghymuned Pendeulwyn, Bro Morgannwg, yw Clawdd-coch[1][2] (hefyd Clawdd Coch neu Clawddcoch). Mae'n gorwedd i'r gogledd-ddwyrain o bentrefan Tredodridge. Mae wedi'i leoli wrth ymyl Clwb Golff Bro Morgannwg a Chastell Hensol.

Clawdd-coch
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPendeulwyn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.49°N 3.36°W Edit this on Wikidata
Cod OSST055776 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJane Hutt (Llafur)
AS/auAlun Cairns (Ceidwadwr)
Map

Hanes golygu

Mae Clawdd-coch wedi'i ddogfennu fel lle efo peth bwysigrwydd fel anheddiad Rhufeinig a chredir mai hwn yw lle gorffwys olaf Ostorius.[3][4] Adeiladwyd un o'r ffyrdd sy'n arwain i'r pentref, a elwir yn Via Media, gan y Rhufeiniaid.[3] Bu gwaith toddi plwm a chopr yng nghyffiniau annedd a elwid yn "Dol-y-felin-blwm".[3]

Yng nghanol y 19g, mae'n hysbys bod y pentrefan yn eiddo i Mr Asterley a oedd yn ffermio'r tir yno.[4] Mae'n debyg ei fod yn byw yn yr hyn sy'n cael ei alw bellach Gwesty Clawdd Coch, ffermdy hir a adeiladwyd yn y 1650au. Roedd Ivor Novello yn hoff iawn o'r pentrefan a fyddai'n aml yn treulio penwythnosau yn ymlacio yno, i geisio cael ysbrydoliaeth.[5] Fe'i hadnewyddwyd ym 1988.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 19 Ebrill 2023
  2. British Place Names; adalwyd 20 Ebrill 2023
  3. 3.0 3.1 3.2 Collections historical and archeological relating to montgomeryshire and its borders. Llundain. 1884. tt. 37–48.
  4. 4.0 4.1 Cambrian Archaeological Association (1851). Archaeologia cambrensis. W. Pickering. t. 144.
  5. "Clawdd Coch Guest House - A History". Clawdd Coch guest house. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-06. Cyrchwyd 2019-03-08.