Dansk Kulturinstitut

Sefydliad er hyrwyddo diwylliant a pherthynas Denmarc yn fyd-eang

Mae'r Dansk Kulturinstitut talfyrir i DKI, (Sefydliad Diwylliannol Denmarc) yn sefydliad annibynnol sydd â chytundeb fframwaith 4 blynedd gyda'r Weinyddiaeth Ddiwylliant y wladwriaeth. Mae'r sefydliad wedi bodoli ers 1940. Am fwy nag 80 mlynedd, y pwrpas fu hyrwyddo deialog rhyngddiwylliannol ar draws ffiniau cenedlaethol trwy gelfyddyd a diwylliant.[1] Mae Ei Uchelder Brenhinol y Dywysoges Mary yn noddwr Sefydliad Diwylliannol Denmarc. Camilla Mordhorst yw'r cyfarwyddwr.[2] Mae'r DKI yn aelod o'r European Union National Institutes for Culture.

Dansk Kulturinstitut
Enghraifft o'r canlynolasiantaeth lywodraethol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1940 Edit this on Wikidata
Prif weithredwrCamilla Mordhorst Edit this on Wikidata
SylfaenyddFolmer Wisti Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolQ114169398 Edit this on Wikidata
PencadlysVartov Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.dankultur.dk/ Edit this on Wikidata
Logo Dansk Kulturinstitut

Hanes golygu

 
Gaismas pils - Castell golau" - adeilad Llyfrgell Genedlaethol Latfia bu'n cynnal canolfan Lafia a gwledydd y Baltig y DKI

Sefydlwyd Sefydliad Diwylliannol Denmarc gan Folmer Wisti dan yr enw Det Danske Selskab (Cymdeithas Denmarc), a’i nod oedd creu cyd-ddealltwriaeth trwy wybodaeth am Ddenmarc a chyfnewid diwylliant, syniadau a phrofiadau ar draws ffiniau cenedlaethol. Ym 1989, newidiodd y Det Danske Selskab ei enw i Det Danske Kulturinstitut, ac ers 2016 i Dansk Kulturinstitut.

Sefydlwyd yr adrannau cyntaf dramor ym 1947. Heddiw, mae gan Sefydliad Diwylliannol Denmarc ei brif swyddfa yn Copenhagen a sefydliadau yn: Gwlad Belg (Brwsel), Latfia (Riga),[3] Rwsia (Saint Petersburg), Tsieina (Beijing), Brasil (Rio de Janeiro) ac India (Delhi Newydd). Yn ogystal, mae gan Sefydliad Diwylliant Denmarc brosiectau yn yr Wcráin, Twrci a Belarws.

Cennad golygu

Mae'r DKI yn enghraifft o strategaeth ddiplomyddiaeth ddiwylliannol er hyrwyddo grym meddal Denmarc.

Ynghyd â phartneriaid Daneg a rhyngwladol, mae Sefydliad Diwylliannol Denmarc yn datblygu nifer fawr o ddigwyddiadau a phrosiectau sy'n berthnasol yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol.

Trwy eu gwreiddiau lleol, mae gan y sefydliadau dramor lawer o wybodaeth am ddiwylliant y rhanbarth y maent yn gweithio ynddo, a rhwydwaith cryf yn y sector diwylliannol ac ymhlith sefydliadau cymdeithasol ac addysgol, awdurdodau a chyrff anllywodraethol.

Gweithgaredd golygu

Mae gweithgareddau Sefydliad Diwylliannol Denmarc yn cynnwys:

  • Cyngherddau gydag unawdwyr ac ensembles o Ddenmarc dramor
  • Arddangosfeydd gydag artistiaid o Ddenmarc ac arddangosfeydd addysgiadol gyda phynciau cysylltiedig â chymdeithas, er enghraifft pensaernïaeth Denmarc, ysgol ac addysg ac amodau cymdeithasol
  • Theatr, ffilm a dawns
  • Cynadleddau a seminarau ar bynciau diwylliannol neu wyddor gymdeithasol - dramor ac yn Nenmarc
  • Teithiau astudio i Ddenmarc ac oddi yno o fewn pynciau megis polisi cymdeithasol ac iechyd, addysg a diwylliannol. Yn ddelfrydol, mae'r teithiau astudio wedi'u hanelu at sefydliadau proffesiynol, awdurdodau a chymdeithasau gwladwriaethol, rhanbarthol a threfol
  • Cynigion cyfnewid ac addysg barhaus i weithwyr o fewn yr ysgol, a meysydd diwylliannol, cymdeithasol ac iechyd, lle mae’r cyfranogwyr yn cael cipolwg ar fywyd bob dydd proffesiynol a diwylliannol ei gilydd
  • Cyrsiau dysgu'r iaith Daneg - y rhan fwyaf dramor
  • Llenyddiaeth

Sefydliadau tebyg golygu

Mae Danske Kulturinstitut yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.

Asiantaethau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Anna Jenkinson (30 September 2005). "Europe's 200 Languages, Costly to EU, Are Hailed by Brussels". Bloomberg. Cyrchwyd 11 June 2012.
  2. "About us". Gwefan Dansk Instutut. Cyrchwyd 20 Mawrth 2023.
  3. "Dansk Kulturinstitut i Riga leder efter nye praktikanter". Dansk Institut Riga. Cyrchwyd 20 Mawrth 2023.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Ddenmarc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.