European Union National Institutes for Culture

Corff ymbarel sefydliadau cenedlaethol dros ddiwylliant yr Undeb Ewropeaidd

Rhwydwaith o sefydliadau diwylliant cenedlaethol Ewropeaidd a chyrff cenedlaethol sy'n ymwneud â gweithgareddau diwylliannol a gweithgareddau cysylltiedig y tu hwnt i'w ffiniau cenedlaethol yw Sefydliadau Cenedlaethol dros Ddiwylliant yr Undeb Ewropeaidd (European Union National Institutes for Culture, EUNIC). Mae'r Sefydliad yn dod â sefydliadau o bob un o 27 aelod-wladwriaethau’r UE ynghyd ac yn ychwanegu gwerth drwy gydweithio ar draws cyrff diwylliannol rhyngwladol. Drwy gyfuno adnoddau ac arbenigedd ei aelodau a gwneud gwaith ar y cyd ar feysydd diddordeb cyffredin, mae EUNIC yn bartner cydnabyddedig i’r UE a’i randdeiliaid wrth ddiffinio a gweithredu polisi Ewropeaidd ar ddiwylliant y tu mewn a’r tu allan i’r UE.

European Union National Institutes for Culture
Enghraifft o'r canlynolsefydliad, sefydliad diwylliannol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2006 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.eunicglobal.eu Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Strwythur golygu

 
Logo EUNIC

Pwrpas trosfwaol EUNIC yw creu partneriaethau a rhwydweithiau effeithiol rhwng y sefydliadau sy'n cymryd rhan, er mwyn gwella a hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol a dealltwriaeth rhwng cymdeithasau Ewropeaidd, ac i gryfhau deialog a chydweithrediad rhyngwladol gyda gwledydd y tu allan i Ewrop.

Ers ei sefydlu yn 2006, mae EUNIC wedi datblygu i fod yn rhwydwaith cryf sy'n darparu prosiectau cydweithredol trawswladol ledled y byd trwy ei 36 aelod a'i 103 o glystyrau, sy'n cynnwys sefydliadau diwylliannol cenedlaethol. Mae clystyrau yn llwyfannau cydweithio a sefydlwyd lle mae o leiaf tair swyddfa leol o aelodau EUNIC yn gweithredu gyda’i gilydd. Gall clystyrau weithredu ledled y wlad neu ledled y ddinas. Mae clwstwr EUNIC yn cynrychioli EUNIC cyfan ac nid yn unig yr aelodau hynny sy'n bresennol mewn gwlad neu leoliad.

Ar 16 Mai 2017, yn ystod Llywyddiaeth Denmarc EUNIC a'r Undeb Ewropeaidd, llofnododd gytundeb gweinyddol sy'n amlinellu egwyddorion, gwerthoedd ac amcanion ar y cyd ar gyfer cydweithredu, yn ogystal â threfniadau ymarferol ar gyfer ei weithredu.[1]

Cefnogir y Llywyddion gan dîm swyddfa EUNIC Global a leolir ym Mrwsel. Mae Swyddfa Fyd-eang EUNIC ym Mrwsel hefyd yn cefnogi gwaith aelodau a chlystyrau EUNIC ledled y byd.

Rheolaeth golygu

Rheolir EUNIC gan gyfarfod chwe-misol o Benaethiaid ei aelod sefydliadau (Cynulliad Cyffredinol). Maent yn ethol Llywydd, Is-lywydd, a phedwar aelod cyffredin sydd gyda'i gilydd yn cynrychioli Bwrdd Cyfarwyddwyr EUNIC.

Aelodau oddi fewn i'r UE golygu

Aelodau EUNIC ym mis Medi 2020):[4]

Aelodau tu allan i'r Undeb Ewropeaidd golygu

Mae aelodau EUNIC yn bresennol yn y gwledydd canlynol:[5]

Sefydliadau tebyg golygu

Mae'r EUNIC yn gorff ymbarél i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.

Asiantaethau golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Administrative arrangement signed between EUNIC and the European Union". EUNIC.
  2. "Meet the people of EUNIC: Augustin Favereau, president of EUNIC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-12-14 – drwy www.youtube.com.Nodyn:Cbignore
  3. "Flanders president of EUNIC". www.fdfa.be.
  4. "About".
  5. EUNIC, EU National Institutes for Culture-. "Map". EU National Institutes for Culture - EUNIC.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Ewrop. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am gysylltiadau rhyngwladol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.