Darlith Flynyddol Llyfrgell Penygroes

digwyddiad blynyddol ym Mhenygroes, Gwynedd

Sefydlwyd Darlith Flynyddol Llyfrgell Penygroes gyda'r amcan o draddodi a chyhoeddi atgofion am ardal Dyffryn Nantlle, Gwynedd ac agweddau ar hanes y fro honno. Cafodd y gyfres o ddarlithoedd cyhoeddus blynyddol hyn ei sefydlu ym mis Mai 1967 gan bwyllgor lleol Llyfrgell Sir Gaernarfon mewn cyfarfod yn llyfrgell Penygroes. Y nod oedd "cael un gŵr enwog i roi darlith yn flynyddol ar ei hen ardal, sef Dyffryn Nantlle, a chyhoeddi'r ddarlith honno".[1] Traddodwyd y ddarlith gyntaf, sef "Yn Nhal-y-sarn ers talwm ..." gan Gwilym R. Jones, yn haf 1968.

Darlith Flynyddol Llyfrgell Penygroes
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad blynyddol Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthPen-y-groes Edit this on Wikidata

Cyhoeddwyd y darlithoedd cynnar gan Gyngor Sir Gaernarfon. Erbyn hyn cyhoeddir y darlithoedd gan Adran Addysg a Diwylliant Cyngor Gwynedd.

Rhestr o'r darlithoedd golygu

Mae'r rhestr hon yn anghyflawn: mae croeso i chi ychwanegu ati.
  • 1968 - Gwilym R. Jones, "Yn Nhal-y-sarn ers talwm ..."
  • 1969 - R. Alun Roberts, Y Tyddynnwr a’r Chwarelwr yn Nyffryn Nantlle
  • 1970 - Kate Roberts, Dau Lenor o Ochr Moeltryfan
  • 1970/71 - John Gwilym Jones, Capel ac Ysgol
  • 1971/72 - Syr Thomas Parry, Tŷ a Thyddyn
  • 1972/73 - Mathonwy Hughes, Bywyd yr Ucheldir
  • 1973/74 - Hywel D. Roberts, Prifardd y Dyffryn: R. Williams Parry
  • 1974/75 - Gruffudd Parry, Blwyddyn Bentre
  • 1975/76 - Alwyn Thomas, Tyfu mewn Cymdeithas
  • 1976/77 - Idwal Jones, Codi Mhac o'r Dyffryn
  • 1977/78 - Ffowc Williams, Yr Ochr Draw
  • 1978 - Huw Davies, Fy Hen Fro
  • 1979 - R. Owen Jones, Tyred Drosodd
  • 1979/80 - Gwynfryn Richards, A Fynn Esgyn, Mynn Ysgol: Datblygiad Addysg yn Nyffryn Nantlle
  • 1980/81 - Katie Olwen Pritchard, Y Glas a'r Coch
  • 1981/82 - Althea Williams, Codi Allorau: Datblygiad Crefydd yn Nyffryn Nantlle
  • 1983 - William Jones (Wil Tyddyn), O Benygroes i Ben Draw'r Byd
  • 1983/84 - R. Gordon Williams, Atgofion Plentyndod
  • 1984 - Brinley Ross Williams, Addysg a Chelfyddyd: A Oes Cyfiawnder?
  • 1986 - Hugh Hughes, Atgofion
  • 1986 - Melfyn R. Williams, Y Teithwyr Talog
  • 1987 - Dafydd Glyn Jones, Y Bedwaredd Gainc
  • 1990 - Cledwyn Jones, "O na byddai’n haf o hyd: Hanes Cerddoriaeth yn Nyffryn Nantlle"
  • 1991 - John Roberts, Ernes
  • 1992 - Elfed Roberts, Hafan, Bwlch a Dyffryn
  • 1994 - Meirion Parry, Dwyn Mae Cof
  • 1995 - Dewi Jones, Datblygiad Cynnar Botaneg yn Eryri
  • 1997 - Dewi Tomos, Atgof Atgof Gynt
  • 1998 - Bleddyn Owen Huws, Delfryd Dysg Cymeriad: Canmlwyddiant Ysgol Dyffryn Nantlle, 1898-1998
  • 2001 - Elan Closs Stephens, Y Moderneiddwyr: Cipolwg ar Ddau Ddramodydd 1966-1991
  • 2002 - Huw Geraint Williams, Tros fy Ysgwydd
  • 2003 - Elfyn Thomas, Bysys Bach y Wlad a'r Byd
  • 2004 - Haydn E. Edwards, Cemeg yw Bywyd
  • 2005 - Karen Owen, O Ben'groes i Beersheba
  • 2006 - Bet Davies, Pobl Ddŵad Dyffryn Nantlle
  • 2007 - Dewi R. Jones, Hiraeth Doeth
  • 2008 - Gwynfor Pierce Jones, Chwarelyddiaeth Dyffryn Nantlle
  • 2009 - Menna Baines, Fi, Kate a'r Gwyddoniadur: Merched o A i Z
  • 2010 - Mary Hughes, Gobaith a Gorthrwm: Golwg ar Addysg Elfennol a Chynradd Dalgylch Penygroes
  • 2012 - Ann Beynon, Atgofion Plentyndod 2
  • 2014 - Angharad Tomos, Tua'r Dyfodol

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwilym R. Jones, "Yn Nhal-y-sarn ers talwm ..." (Llyfrgell Sir Gaernarfon, 1968; adargraffiad 1971). Rhagair gan T. Gwilym Pritchard.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.