Edward Samuel

clerigwr, bardd, ac awdur

Bardd a chyfieithydd o eglwyswr oedd Edward Samuel (16748 Ebrill 1748). Roedd yn fardd medrus ar y mesurau caeth, yn awdur llyfr ar yr Apostolion, ac yn gyfieithydd sawl llyfr crefyddol i'r Gymraeg. Roedd yn daid i David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg), a aeth gyda'r Capten James Cook ar ei fordaith olaf.

Edward Samuel
Ganwyd1674 Edit this on Wikidata
Penmorfa Edit this on Wikidata
Bu farw8 Ebrill 1748 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfieithydd, bardd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed Edward Samuel ym mhentref Penmorfa, Eifionydd. Ar ôl graddio o Goleg Oriel, Rhydychen, dychwelodd i Gymru i fod yn offeiriad gan wasanaethu ym mhlwyfi Betws Gwerful Goch (1702-21) a Llangar yn Edeirnion (1721-48).

Roedd yn berthynas i fam John Williams (Ioan Rhagfyr).

Gwaith llenyddol golygu

Cyfansoddodd nifer o gerddi, yn gywyddau ac englynion a cherddi rhydd, yn cynnwys marwnad i'r bardd Huw Morys. Cyhoeddwyd rhai o'i gerddi yn y flodeugerdd boblogaidd Blodeu-gerdd Cymry (1759).

Ysgrifennodd Bucheddau'r Apostolion a'r Efengylwyr (1704). Cyfieithodd sawl llyfr Cristnogol, yn cynnwys cyfieithiad newydd o Holl Ddyledswydd Dyn (1718) a hefyd Gwirionedd y Grefydd Gristn'nogol (1716). Ceir cryn raen ar y rhyddiaith yn y gweithiau hyn.

Llyfryddiaeth golygu

Cerddi golygu

Ceir un o'i gerddi yn y gyfrol Beirdd y Berwyn (Cyfres y Fil, 1902) ac eraill mewn rhai o'r blodeugerddi cynnar, ond erys y rhan fwyaf mewn llawysgrifau.

Rhyddiaith golygu

  • Bucheddau'r Apostolion a'r Efengylwyr (1704)
  • Holl Ddyledswydd Dyn (1718)
  • Gwirionedd y Grefydd Gristn'nogol

Cyfeiriadau golygu