Eglwys Bresbyteraidd Rydd yr Alban

Ffurfiwyd Eglwys Bresbyteraidd Rydd yr Alban (Gaeleg yr AlbanAn Eaglais Shaor ChlèireachSaesnegFree Presbyterian Church of Scotland) ym 1893 ac mae'n honni mai disgynnydd ysbrydol Diwygiad yr Alban yw hi.

Eglwys Bresbyteraidd Rydd yr Alban
Enghraifft o'r canlynolenwad Cristnogol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1893 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.fpchurch.org.uk Edit this on Wikidata
Eglwys Bresbyteraidd Rydd yr Alban Gleann Dail (Glendale)

Mae'n ei gweld ei hun yn "etifedd cyfansoddiadol Eglwys yr Alban hanesyddol"[1] ac mae'n dweud ei bod yn Ddiwygiedig yn ei hathrawiaeth, ei haddoliad a'i hymarferiad a bod ei gweithredodd yn seiliedig ar Air Duw, y Beibl. Cyffes Ffydd Westminster yw ei safon isradd.

Hanes golygu

 
Llinell amser yn dangos datblygiad eglwysi'r Alban o 1560 ymlaen

Ym 1892, pasiodd Eglwys Rydd yr Alban Ddeddf Ddatgeiniol yn llacio'i ymlyniad i Gyffes Ffydd Westminster, gan ddilyn esiampl Eglwys Bresbyteraidd Unedig yr Alban ac Eglwys yr Alban (1889), a welid yn gam at uno â'r Eglwys Bresbyteraidd Unedig. Y Parch. Donald MacFarlane (1834-1926), gweinidog o ynys Ratharsair (Raasey), safodd yn erbyn hyn ac ymunodd y Parch. Donald MacDonald (1825-1901) o Sìldeag (Shieldaig) ag ef yn nes ymlaen. O ganlyniad i hyn, torrodd nifer mawr o henuriaid rhai eglwysi, yn bennaf yn yr Ucheldiroedd, eu cysylltiadau ag Eglwys Rydd yr Alban a sefydlu Eglwys Bresbyteraidd Rydd yr Alban, a ystyriai'n fwy uniongred. Erbyn 1907, 20 eglwys a 12 gweinidog oedd gan y corff hwn.

Ambell flwddyn ar ôl sefydlu Eglwys Bresbyteraidd Rydd yr Alban, unodd Eglwys Rydd yr Alban â'r Eglwys Bresbyteraidd Unedig er mwyn ffurfio Eglwys Rydd Unedig yr Alban, tra oedd lleiafrif rhywfaint yn fwy yn aros y tu allan i'r undeb gan gadw'r enw Eglwys Rydd yr Alban. Ar y dechrau, roedd rhai'n tybied a fyddai'r ddwy eglwys hyn yn dod ynghyd, ond ni ddigwyddodd hyn, yn rhannol am mai Egwyddor Sefydliadol oedd sail y gwahaniad diweddarach,[2] yn hytrach na'r Ddeddf Ddatgeiniol, a gawsai ei diddymu gan Eglwys Rydd yr Alban (ar ôl 1900) ar ôl y gwahaniad. Roedd y ddau enwad yn edrych ar Ddeddf Ddatgeiniol 1892 yn wahanol: roedd y Presbyteriaid Rhydd yn ei gweld yn orfodol tra nad oedd Eglwys Rydd yr Alban yn credu hynny.

Ym 1905, bu trafodaeth ar uno â lleiafrif yr Eglwys Rydd ar ôl 1900 yn Synod y Presbyteriaid Rhydd. Datganodd y Synod y byddai'n ystyried undeb ag eglwys a ddaliai "anffaeledigrwydd Ysgrythurau'r Hen Destament a'r Newydd, ac athrawiaeth gyfan y Gyffes Ffydd, yn ei phroffes a'i hymarferiad". Barn y Synod am yr Eglwys Rydd wedi 1900 yw, "er iddi wneud proffes ddigonol mewn geiriau', mai "prin oedd ei hymarfer". Cyflogi'r Dr W. M. Alexander yn yr Eglwys Rydd oedd pwnc llosg ar y pryd. Pan oedd ef yn ddarlithydd yn ei choleg, ysgrifennodd lyfr a oedd yn amwys o ran statws y Beibl yn nhyb y Prebyteriaid Rhydd a rhai o geidwadwyr yr Eglwys Rydd wedi 1900. Mewn Ymateb ym 1917 i Ddatganiad o Wahaniaethau gan yr Eglwys Bresbyteraidd Rydd, pwysleisiodd y Eglwys Rydd y ffaith bod y Dr Alexander wedi tynnu'r llyfr o gylchrediad ym 1905 ac edifarhau "am unrhyw feirniadaeth yn y llyfr ar anffaeledigrwydd Gair Duw" a'i fod wedi ailddatgan ei gred yn anffaeledigrwydd yr Ysgrythurau yn gyhoeddus ym 1906, gan ddweud mai "mwy gwerthfawr i mi na bywyd ei hun yw anffaeledigrwydd llwyr Gair Duw". Er hyn, derbyniwyd cynnig yn Synod 1918 yr Eglwys Bresbyteraidd Rydd a soniai am yr Ymateb fel un nodweddiol o'i "ddatganiadau gochelgar a['i] awgrymiadau i gyfaddawdu".[3]

Roedd yn well gan rai o weinidogion yr Eglwys Bresbyteraidd Rydd ymuno â lleiafrif yr Eglwys Rydd wedi 1900 er mwyn parhau i ddwyn tystiolaeth Bresbyteraidd Rydd ar wahân. Ym 1905 y derbyniwyd y Parch. John Macleod o Camas nam Muclach (Kames), Alexander Stewart o Gaeredin a George Mackay o Steòrnabhagh (Stornoway) gan yr Eglwys Rydd. Dilynodd y Parch John R Mackay o Inbhir Nis (Inverness), Alexander Macrae o Port Rìgh (Portree) ac Andrew Sutherland ym 1918.[4]

 
Tocyn cymundeb o'r Eglwys Bresbyteraidd Rydd

Mae rhai yn drysu rhwng y ddau enwad, ond nid cyn amled ag yn y gorffennol. Ar y cychwyn, roedd y ddau o gefndir yn yr Ucheldiroedd, yn cefnogi Cyffes Rydd yr Alban ac â safbwynt cymdeithasol ceidwadol. Serch hynny, mae'r Eglwys Bresbyteraidd Rydd yn ystyried defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i fynd i'r capel ar y Saboth yn bechod,[5] yn wahanol i'r Eglwys Rydd. Mae'r Eglwys Rydd yn caniatáu defnyddio cyfieithiadau modern o'r Beibl tra bo'r Eglwys Bresbyteraidd Rydd yn mynnu ar y Cyfieithiad Awdurdodedig mewn addoliad cyhoeddus wedi penderfyniad y Synod ym 1961.[6]

Rhwyg golygu

Ym 1989, ffurfiodd grŵp hollt yr Eglwysi Presbyteraidd Cysylltiedig "wedi canfon methiant Eglwys Bresbyteraidd Rydd yr Alban i roi penodau 20 a 26 Cyffes Ffydd Westminster ar waith",[7] ar ôl diarddel yr Arglwydd Adfocad yr Arglwydd Mackay o Clashfern o'i waith fel henadur am fynychu offerennau Pabyddol yn angladdau ei gyd-farnwyr. Gweinidog Ndebele o Simbabwe, y diweddar Aaron Ndebele, oedd cymedrolwr y Synod ar y pryd.

Mae'r Eglwys Bresbyteraidd Rydd yn dal i wrthsefyll llawer o agweddau ar yr Eglwys Babyddol, gan gynnwys yr offeren. Yn ogystal â hyn, mae'n gwrthdystio yn erbyn pobl mewn awdurdod ac aelodau'r teulu brenhinol weithiau am fynychu'r offeren. Ysgrifennodd at y Tywysog Siarl i gwyno am iddo fynd i offeren requiem am ei gefnder.[8]

Diffyg undod ymhlith eglwysi Diwygiedig yr Alban golygu

Cred y Presbyteriaid Rhydd yw y dylai'r enwadau yn yr Alban sydd yn glynu wrth Gyffes Ffydd Westminster uno â hi ar ôl edifarhau dros droi oddi wrth y Gyffes yn y gorffennol. Dywed Catecism yr Eglwys Bresbyteraidd Rhydd (argraffiad 2013 sydd yn fersiwn ddiweddaredig ar argraffiad gwreiddiol 1942-43) bod yn "rhaid i bob Eglwys Bresbyteriadd yr Alban sydd yn honni cynrychioli'r Eglwys Diwygiedig ac sydd wedi achosi neu sydd yn dal i lynu wrth rwygau yn erbyn Safonau Westminster a gyffeswyd edifarhau a dychwelyd at burdeb yn ei hathrawiaeth, ei haddoliad, ei llywodraeth a'i disgyblaeth. Nid yw'r Eglwys Bresbyteraidd Rydd yn euog o rwyg a honna fod yn wir etifedd Eglwys Ddiwygiedig yr Alban yn ei hathrawiaeth, ei haddoliad, ei llywodraeth a'i disgyblaeth. Er nad yw'n arddel perffeithrwydd, honna y dylai pob eglwys yn yr Alban uno oddeutu ei cyfansoddiad a'i thystiolaeth".[9]

Datblygiadau diweddar golygu

Yn yr Eglwys Bresbyteraidd Rydd, mae gwaith estyn yr Eglwys yn tueddu i fod yn eithaf tawel ac mae canlyniadau i'w gweld yn y tymor hir. Pwysleisia angen yr Ysbryd Glân er mwyn gweithio yn yr enaid cyn cael unrhyw fywyd ysbrydol, angen pregethu seiliedig ar y Beibl sydd yn canolbwyntio ar Grist, angen bywyd sanctaidd ar y rhai sydd yn dweud mai cadwedig ydynt ac mewn efengylu, mae'n annog enghraifft yn ogystal ag argymhelliad. Nid yw wedi dilyn eglwysi efengylaidd eraill yn ei hagwedd tuag at gyrraedd gweddill y wlad seciwlar. Mae'i Chatecism yn egluro bod "gan lawer o eglwysi modern ddrama, dawnsio a bandiau cerddorol yn eu haddoliad ac maent yn defnyddio chwaraeon ac adloniant cymdeithasol er mwyn denu a chadw pobl ifainc; ond perthyn i'r byd y mae'r pethau hyn ac ni ddylai Eglwys Crist eu caniatáu er mwyn hyrwyddo lles y deyrnas".[10]

Mae datganiadau cyhoeddus am gyflwr cyfredol y genedl yn tueddu i ddod ynghyd â phryder ynglŷn â dirywiad ysbrydol y Presbyteriaid Rhydd ac ofnau am gynnydd seciwarleiddio mewn eglwysi Diwygiedig eraill. Roedd adroddiad diweddar wrth Bwyllgor Crefydd a Moesau'r Presbyteriaid Rhydd yn dyfynnu adroddiad henaduriaeth Ynysoedd Allanol y Presbyteriaid Rhydd, ond yn dweud bod y materion yn perthnasol i lawer o rannau eraill y wlad. "Rhaid i ni gydnabod cyflwr isel crefydd yn ein plith", meddai, gan ychwanegu sylw am enwadau eraill: "...cawn yr anogir llawer o Gristionogion proffesedig yn yr Eglwysi i barhau â'u diddordeb bydol cynt mewn chwaraeon proffesiynol ac amatur, cerddoriaeth fydol, adloniant megis y sinema, dawnsiau, mynychu tafarndai, cyngerddau a nosweithiau llawen a bod llawer yn siarad ac yn gwisgo megis y byd heb braidd dim gwahaniaeth i'w gael rhyngddynt hwy a'u hen gyfeillion".[11]

Mae gan yr Eglwys siop lyfrau yn Glaschu (Glasgow) sydd yn gwerthu llyfrau Diwygiedig Cristnogol. Statws elusennol sydd ganddi ac mae dan ofal pwyllgor yn yr Eglwys Bresbyteraidd Rydd.[12]

Eglwysi y tu allan i'r DU golygu

Mae gan yr Eglwys Bresbyteraidd Rydd Henaduriaeth Awstralia a Seland Newydd, a nifer o eglwysi yn y ddwy wlad.[13] Ceir eglwysi yn Gisborne, Auckland, Tauranga, Wellington, Sydney a Grafton. Yn Wcráin, mae eglwys yn Odessa[14] ac mae eglwys yn Singapôr hefyd. Cynhelir oedfaon pythefnosol yn Simbabwe mewn 40 o fannau gwahanol, a'u canolfannau yn Bulawayo, Ingwenya, Mbuma, New Canaan a Zenka. Tair eglwys sydd yng Ngogledd America: yn Vancouver ac yn Chelsey yng Nghanada ac yn Santa Fe yn yr Unol Daleithiau.

Rhestr o eglwysi yn y DU golygu

Eglwys Tref Gweinidog Llun
Aberdeen Obar Dheathain (Aberdeen) Y Parch. D. W. B. Somerset
Barnoldswick Barnoldswick, Lloegr Y Parch. K.M. Watkins
Bonar a Dornoch Drochaid a' Bhanna (Bonar Bridge) Y Parch. G.G. Hutton  
Broadstairs Broadstairs, Lloegr dim
Bonar a Dornoch Dòrnach (Dornoch) Y Parch. G.G. Hutton  
Dingwall a Beauly Inbhir Pheofharain (Dingwall) Y Parch. Neil M Ross
Farr a Daviot Fàrr (Farr) - Tom Aitinn (Tomatin) - Srath Fhairgeag (Stratherrick) dim
Fort William An Gearasdan (Fort William) dim
Gairloch Geàrrloch (Gairloch) Y Parch. A. E. W. MacDonald
Eglwys Sant Jwdas Glaschu (Glasgow) Y Parch. Roderick Macleod  
Duirinish Gleann Dail (Glendale) Y Parch. B. Jardine  
Eglwys Gilmore Place Caeredin Y Parch. David Campbell
Halkirk Hacraig (Halkirk) dim  
Inverness Inbhir Nis (Inverness) cymedrolwr dros dro: Y Parch. Dr DWB Somerset
Kinlochbervie a Scourie Ceann Loch Biorbhaidh (Kinlochbervie) dim  
Laide An Leathad (Laide) Y Parch. Donald A Ross  
Larne Latharna (Larne), Gogledd Iwerddon
South Harris An Tòb (Leverburgh) Y Parch. Kenneth D Macleod  
Lochcarron a Kyle of Lochalsh Loch Carrann (Lochcarron)Caol Loch Aillse (Kyle of Lochalsh) Y Parch. Barry Whear
Capel Zoar Llundain, Lloegr Y Parch. John Macleod
Ness Nis (Ness) Y Parch. A. W. MacColl
North Tolsta Tolastadh bho Thuath (North Tolsta) dim  
North Uist Uibhist a Tuath (North Uist) Y Parch. Donald Macdonald  
Perth Peairt (Perth) dim
Portree Port Rìgh (Portree) Y Parch. Iain Macdonald
Raasay Inbhir Àrais (Inverarish) dim  
Applecross a Shieldaig Sìldeag (Shieldaig) Y Parch. Wilfred A Weale  
Staffin Stafain (Staffin) Y Parch. Wilfred A Weale
Stornoway Steòrnabhagh (Stornoway) Y Parch. James R Tallach.  
Bracadale Strath An Sruthan (Struan) dim  
North Harris An Tairbeart (Tarbert) Y Parch. B. Jardine  
Uig Ùig (Uig), Leòdhas (Lewis) cymedrolwr dros dro: Y Parch. Allan W MacColl
Duirinish Bhatan (Vatten) dim  
Ullapool a Lochinver Ulapul (Ullapool) cymedrolwr dros dro: Y Parch. A. E. W. MacDonald

Cyfeiriadau golygu

  1. http://www.fpchurch.org.uk/about-us/who-we-are/
  2. http://www.fpchurch.org.uk/magazines/fpm/2001/April/article3.php[dolen marw]
  3. MacPherson, MacPherson (1970). History of the Free Presbyterian Church of Scotland 1893-1970. Publications Committee, Free Presbyterian Church of Scotland. tt. 125–127.
  4. MacPherson, MacPherson (1970). History of the Free Presbyterian Church of Scotland 1893-1970. Publications Committee, Free Presbyterian Church of Scotland. tt. 108, 130.
  5. Murray, Iain (1984). The Life of John Murray. Banner of Truth Trust. t. 35.
  6. "The Importance of An Approved Translation Of The Bible". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-22. Cyrchwyd 2015-05-29.
  7. APC Background Statement
  8. FPC (2014). Proceedings of Synod Together with Reports and Accounts, May 2014. Free Presbyterian Church of Scotland. tt. 9, 10.
  9. FPC, FPC (2013). A Catechism of the History and Principles of the Free Presbyterian Church of Scotland. Free Presbyterian Church of Scotland. t. 40.
  10. A Catechism of the History and Principles of the Free Presbyterian Church of Scotland. FPC. 2013. t. 45.
  11. Proceedings of Synod Together With Reports and Accounts May 2014. FPC. 2014. tt. 14, 15.
  12. http://www.fpbookroom.org
  13. Ward, Rowland; Humphreys, Robert (1995). Religious Bodies in Australia: A comprehensive Guide (arg. 3rd). New Melbourne Press. t. 86. ISBN 978-0-646-24552-2.
  14. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-22. Cyrchwyd 2021-04-26.

Dolenni allanol golygu