Gorsaf reilffordd Corwen

Roedd gorsaf reilffordd Corwen yn orsaf reilffordd ar Linell Rhiwabon i'r Abermaw, a oedd wedi'i leoli yn nhref Corwen Sir Feirionnydd (Sir Ddinbych, bellach).

Gorsaf reilffordd Corwen
Mathgorsaf reilffordd, cyn orsaf reilffordd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlCorwen Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1865 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCorwen Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9814°N 3.3785°W Edit this on Wikidata
Nifer y platfformauEdit this on Wikidata
Map
Prif adeilad yr orsaf ym 1992

Yr orsaf wreiddiol golygu

Yr orsaf gyntaf i agor oedd orsaf dros dro i'r dwyrain o'r dref, pan agorodd y llinell o Ddinbych ym mis Hydref 1864. Agorwyd gorsaf barhaol gan Reilffordd Great Western ym mis Mai 1865[1].

Roedd gan yr orsaf ddau blatfform a blwch signal, ac roedd yn lle pasio ar y llinell trac sengl. Roedd Corwen hefyd yn derfynfa ddeheuol Rheilffordd Dinbych, Rhuthun a Chorwen , a oedd yn rhedeg o'r Rhyl trwy Ddinbych a Rhuthun i Gorwen, cafodd ei agor ym 1864. Yn ôl y Llawlyfr Swyddogol i Orsafoedd, roedd y dosbarthiadau canlynol o draffig yn cael eu trin yn yr orsaf hon ym 1956: G, P, F, L, H ac C ac roedd yno hefyd craen canpwys yn pwyso 1 tunnell.[2]

Caewyd cyn llinell Dinbych Ruthun & Chorwen yn swyddogol ym 1963, er bod y llinell i'r de o Ruthun wedi cael ei adael sawl blwyddyn yn gynharach ar ôl tirlithriad. Bwriadwyd cau gorsaf Corwen ei hun i deithwyr o dan fwyell Dr Beeching ar ddydd Llun 18 Ionawr 1965, ond fe'i cafodd ei gau'n gynnar ar ddydd Llun 14 Rhagfyr 1964 oherwydd difrod llifogydd i'r gorllewin o'r orsaf. 

Mae prif adeilad yr orsaf a'r safle wedi goroesi'n weddol gyfan gwbl hyd heddiw. Mae wedi cael ei ddefnyddio fel ystafell arddangos i Gwmni Trelars Ifor Williams ers 1990. Cafodd llwybr y lein ei lenwi, cafodd y ddau brif adain a'r bloc toiledau eu dymchwel a chafodd adran ganolog yr adeilad ei hailadeiladu i ddarparu ystafell arddangos.

Gorsaf newydd (Rheilffordd Llangollen) golygu

 
Arwydd Gorsaf Dwyrain Corwen

Yn 2011, dechreuodd Rheilffordd Llangollen, rheilffordd treftadaeth, y gwaith o ail-adeiladu 2.5 milltir (4.0 km) o'r rheilffordd heibio safle Ataliad Bonwm i Gorwen. Gan fod gorsaf wreiddiol Corwen bellach yn cael ei ddefnyddio'n breifat, a gwely'r trac wedi ei isrannu, mae gorsaf newydd yn cael ei hadeiladu ar ochr ddwyreiniol y dref.

Mae camau cyntaf y prosiect wedi cynnwys estyn y llinell i orsaf dros dro yn nwyrain Corwen, a agorodd ym mis Hydref 2014. Cafwyd seremoni agoriadol ffurfiol ar Ddydd Gŵyl Dewi, 1 Mawrth 2015[3], gyda'r tymor llawn cyntaf o deithiau ar y rheilffordd yn cychwyn ychydig wedyn. Yn y pendraw, bydd y llinell yn cael ei ymestyn 200 metr arall i'r orsaf barhaol newydd, Corwen Canolog, bydd yn cael ei hadeiladu wrth ymyl prif faes parcio'r dref

Cyfeiriadau golygu

Darllen pellach golygu

  • Mitchell, Vic; Smith, Keith (2010). Ruabon to Barmouth. West Sussex: Middleton Press. figs. 44-52. ISBN 9781906008840. OCLC 651922152.
  • Mitchell, Vic; Smith, Keith (2012). Branch Lines around Denbigh. West Sussex: Middleton Press. figs. 69-73. ISBN 9781908174321. OCLC 814270878.

Dolenni allanol golygu