Gwerclas

plasdy hynafol yng Nghynwyd, ger Corwen.

Plasty hynafol yw Gwerclas, a saif ar lan afon Dyfrdwy, tua cilometr i'r gorllewin o Eglwys Llangar a chilometr i'r gogledd o bentref Cynwyd, ger Corwen.[1] Arferai sefyll yn Sir Feirionnydd, yna Clwyd cyn newid i ffiniau presennol Sir Ddinbych. Mae'n blasdy bychan tair llawr gyda dwy aden iddo sy'n dod ymlaen o'r ffrynt ac fe'i cofrestrwyd yn Radd II* ar 6 Ebrill 1952 gan Cadw (Rhif cofrestriad: 662). Cafodd ei afdeiladu mewn dull clasurol yn y 1767 ar seiliau adeilad tipyn hynach o Gyfnod y Tuduriaid. Ers 1767 ychydig iawn o newidiadau sydd wedi digwydd i'r plasty ar wahân i ambell fanylun e.e. newidiwyd llechi'r to yn niwedd yr 20g am deils.

Gwerclas
Mathplasty Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCynwyd Edit this on Wikidata
SirCynwyd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr148.2 metr, 142.2 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.9682°N 3.4118°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Ymhlith y rhannau nodedig mae: wyneb bric y tŷ, sy'n dyddio i'r 18g ar waelod cadarn o garreg, ffenestri fenisiaidd ar y llawr cyntaf, cyntedd sy'n dyddio nôl i 1767 gydag arfbais, drws ffrynt gyda cholfnau ionig a grisiau o'r 18g. Mae dwy o ffenestri'r cefn o'r 17g.[2]

Claddfa hynafol golygu

Ceir claddfa gron 14 metr (60 tr) o ddiametr, gyda 'phalmant' ar yr ochr ddwyreiniol; saif yn yr ardd, ger glan afon gerllaw'r plasty (cyfeirnod grid: SJ05394213).[3] Ni chafwyd hyd yma (2016) unrhyw archwiliad archaeolegol ond credir yn gyffredinol mai carnedd neu Siambr gladdu hir ydyw o'r Oes Efydd.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Coflein;[dolen marw] adalwyd Chwefror 2016
  2. britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd Chwefror 2016
  3. Gwefan Coflein;[dolen marw] adalwyd Chwefror 2016
Trefor Jones, O Ferwyn I Fynyllod, 1975
Peter Smith, Houses of the Welsh Countryside, 1988