Mae Jendouba (Arabeg: جندوبة‎), a enwyd yn Souk El Arba hyd 30 Ebrill 1966, yn ddinas yng ngogledd-orllewin Tiwnisia a leolir 154 km i'r gorllewin o'r brifddinas Tiwnis a 50 km o'r ffin ag Algeria. Mae'r ddinas yn gorwedd yn nyffryn Medjerda yng nghanol gwastadedd eang a amylchinir ar un ochr gan fryniau'r Kroumirie i'r gogledd a chan bryniau talaith El Kef ar yr ochr arall.

Jendouba
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Poblogaeth113,116, 49,000, 46,459 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirJendouba Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Uwch y môr143 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Medjerda Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.5011°N 8.7803°E Edit this on Wikidata
Cod post8100 Edit this on Wikidata
Map
Un o strydoedd Jendouba

Jendouba yw prifddinas talaith Jendouba, gyda 43,997 o bobl yn byw ynddi.

Mae'r economi lleol yn seiliedig i raddau helaeth ar amaethyddiaeth. Mae twristiaeth yn datblygu mewn rhannau eraill o'r dalaith, Tabarka ac Aïn Draham, ond nid yw Jendouba yn ganolfan twristiadd, a hynny er gwaethaf y ffaith fod un o safleoedd archaeolegol gorau'r wlad, sef dinas Rufeinig Bulla Regia, yn gorwedd ar ei stepan drws. Ceir coleg rhanbarthol ar gyrrion y ddinas a nifer o ysgolion. Mae lefel diweithdra yn uchel ac mae nifer o bobl ifanc yn gorfod gadael i geisio gwaith yn Nhiwnis a dinasoedd eraill

Mae rheilffordd bwysig yn cysylltu Jendouba â Bou Salem, Béja a Thiwnis i'r dwyrain ac â Ghardimaou ac Algeria i'r gorllewin. Mae'r ddinas yn ganolfan cludiant lleol gyda ffyrdd yn arwain i lawr y dyffryn i gyfeiriad Tiwnis, dros y Kroumirie i Tabarka, ac i fyny i ddinas hynafol El Kef i'r gogledd-ddwyrain.

Mae gan y ddinas glwb pêl-droed sydd yn yr ail adran genedlaethol.

Dolenni allanol golygu